Cyfieithiadau i'r Gymraeg

Mae hanes hir i gyfieithu o ieithoedd y byd i'r Gymraeg. Y Beibl, a droswyd o'r testunau Groeg a Hebraeg gwreiddiol gan yr Esgob William Morgan, yw sylfaen yr iaith lenyddol heddiw.[1] O'r Saesneg mae tarddiad Gweledigaethau y Bardd Cwsc gan Ellis Wynne er mai addasiad gwreiddiol ydyw yn hytrach na chyfieithiad, ac roedd y testun Saesneg yn ei dro yn seiliedig ar waith Sbaeneg, sef Los Suenos.

Mae cyfresi "Dramâu'r Byd" gan Wasg Prifysgol Cymru, "Dramâu Aberystwyth", "Chyfres yr Academi" a Storïau Tramor gan yr Academi Gymreig yn rhan o ymgyrch i ddod â llenyddiaeth orau'r byd i'r darllenydd Cymraeg.

  1. BBC Cymru

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search