Cylch cerrig

Cylch cerrig Côr y Cewri, Lloegr.
Cylch cerrig Bryn Cader Faner.

Defnyddir y term cylch cerrig am hynafiaethau lle mae meini hirion wedi ei gosod i ffurfio cylch. Yn y Llydaweg a rhai ieithoedd eraill, defnyddir y term "cromlech" neu "krommlec'h". Gall y nifer o feini amrywio rhwng 4 a 60. Ceir rhai yng Ngwlad y Basg hefyd. Credir bod y rhain yn dyddio o'r cyfnod Neolithig neu o ddechrau Oes yr Efydd: rhwng 5,300 a 3,500 o flynyddoedd yn ôl; hynny yw, 3300 a 900 cc, cyfnod o 2,400 o flynyddoedd. Ceir llawer o esiamplau o gylchoedd cerrig yng ngwledydd Prydain, Iwerddon a Llydaw. Mae 1,300 wedi'u cofnodi ond credir fod dros 4,000 ohonynt yn wreiddiol.[1]

Nid oes sicrwydd beth oedd eu pwrpas; cred rhai bod rhai o'r meini wedi eu gosod i gyfateb a lleoliad yr haul, y lleuad a/neu'r sêr ar wahanol adegau o'r flwyddyn, a'u bod yn medru gweithredu fel rhyw fath o galendr.

Yng ngwledydd Llychlyn, roedd traddodiad o gylchoedd cerrig yn ystod Oes yr Haearn, yn enwedig yn Götaland. Ceir rhai yng ngogledd Gwlad Pwyl hefyd. Yng Ngorllewin Affrica, ceir cylchoedd cerrig sy'n dyddio o'r cyfnod rhwng yr 8fed a'r 12g; y mwyaf adnabyddus o'r rhain yw cylchoedd cerrig Senegambia.

Ymhlith yr esiamplau mwyaf adnabyddus o gylchoedd cerrig mae Côr y Cewri a Long Meg yn Lloegr a Calanais ar ynys Leòdhas yn yr Alban. Mae enghreifftiau yng Nghymru yn cynnwys Meini Hirion, Penmaenmawr a Chylch Cerrig Tan-y-braich ger Llanfairfechan.

  1. Burl, Aubrey (2000). The Stone Circles of Britain, Ireland and Brittany. New Haven and London: Yale University Press. ISBN 978-0300083477.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search