Cymraeg y gogledd

Cymraeg y Gogledd yw'r Gymraeg a sieredir yn y rhan fwyaf o Ogledd Cymru a rhannau gogleddol Canolbarth Cymru. Nid yw'n dafodiaith ynddi'i hun ond yn hytrach grŵp o dafodieithoedd sydd gyda'i gilydd yn ffurffio un o ddwy gangen dafodieithol y Gymraeg (Cymraeg y de yw'r llall).

Rhennir Cymraeg y Gogledd yn ddwy brif dafodiaith, sef Gwyndodeg a Phowyseg. Mae gan y ddwy dafodiaith hyn eu hymraniadau hwythau yn ogystal. Sylwer hefyd mai dosbarthiad cyffredinol yw hyn. Mewn rhai pethau mae'r Bowyseg a'r Ddyfedeg yn fwy agos i'w gilydd nag y maen nhw i'r Wyndodeg ar y naill law a'r Wenhwyseg ar y llall; yn wir mai'r Wyndodeg a'r Wenhwyseg yn rhannu sawl nodwedd â'i gilydd, e.e. petha am y gair 'pethau' (ond pethe yn y Bowyseg a'r Ddyfedeg).


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search