Cyngor yr Iaith Gymraeg | |
Iaith / Ieithoedd swyddogol | Cymraeg |
---|---|
Cadeirydd | Ben Jones, Llundain |
Sefydlwyd | Tachwedd 1973 |
Math | Asiantaeth weithredol |
Lleoliad | Cymru |
Cyllideb | grant blynyddol gan Lywodraeth San Steffan |
Sefydlwyd Cyngor yr Iaith Gymraeg ym 1973.[1] Roedd y Cyngor yn gyfrifol am ddosbarthu arian i sefydliadau Cymraeg eu hiaith neu oedd yn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg, megis Mudiad Ysgolion Meithrin.[2] Ei theitl Saesneg oedd Welsh Language Council.
Sefydlwyd y Cyngor yn ystod cyfnod Peter Thomas yr aelod seneddol Ceidwadol ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Yn dilyn Etholiad Cyffredinol 1974, bu wedyn dan oruchwyliaeth Plaid Lafur a David Morris, AS a bu ei thrafodion neu ddiffyg gweithredu yn destun trafodaeth ar y pryd.[2]
Gellir ystyried bodolaeth y Cyngor fel cynsail ar gyfer sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn 1993.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search