Dafad

Dafad
Dafad Gymreig
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Artiodactyla
Teulu: Bovidae
Is-deulu: Caprinae
Genws: Ovis
Rhywogaeth: O. aries
Enw deuenwol
Ovis aries
Linnaeus, 1758

Mae defaid (unigol: dafad; Ovis aries) yn gilfilod pori heidiol corniog canolig ei faint, ac yn anifeiliaid fferm a gedwir yn aml er mwyn eu cig a’u cnu. Er bod y term dafad yn gallu sôn am rywogaethau eraill yn y genws Ovis, wrth ei ddefnydd cyffredin mae bron bob amser yn cyfeirio at ddefaid dof. Gelwir grŵp o ddefaid yn braidd neu'n ddiadell. Fel cilfil, mae defaid yn garnolion o urdd yr Artiodactyla. Ceir dros biliwn o ddefaid dof. Cyfeirir at fenyw lawndwf fel mamog a'r gwryw fel hwrdd, neu faharen; yr enw ar wryw ysbaddedig yw gwedder neu folltyn a dafad ifanc yw oen.

Ceir defaid gwyllt mewn sawl rhan o Ewrasia, megis yr argali (O. ammon), dafad yr eira (O. nivicola) a'r wrial (O. vignei), yn ogystal â'r ddafad hirgorn (O. canadensis) o Ogledd America, ond anifeiliaid dof a fegir am eu gwlân a'u cig yw defaid yn bennaf, a hynny ers canrifoedd lawer. Tan y 19g roedd mwy o eifr yng Nghymru nag o ddefaid, ond mae'n sicr fod y ddafad wedi chwarae rhan fawr yn economi Cymru gan ddarparu llaeth, cig, crwyn a gwlân. Yr enw a roddir ar ddafad ifanc ydy oen.

Gwryw'r ddafad yw hwrdd, ac mae'r paru'n digwydd yn yr hydref. Mae'r cyfnod ŵyna (sef bwrw ŵyn) yn digwydd am gyfnod o fis, ar y fferm, a hynny rhwng Ionawr ac Ebrill. Un oen mae'r ddafad fynydd yn bwrw fel arfer, er bod defaid llawr gwlad yn ŵyna dau neu ragor. Gan fwyaf, mae'r erthygl hon yn sôn am ddefaid yng Nghymru. Ar ddiwedd y gwanwyn rhoddir nodau clust i'r defaid a thorrir ŵyn gwryw ((y)sbaddiad). Yn yr haf caiff y defaid eu cneifio a'u dipio er mwyn lladd parasitiaid.

Y tebygrwydd yw fod defaid yn hanu o'r mwfflon gwyllt (Ovis gmelini) sy'n frodorol i ranbarth Caspiaidd o ddwyrain Twrci, Armenia, Aserbaijan ac Iran.[1] Dyma un o'r anifeiliaid cynharaf i gael ei dofi at ddibenion amaethyddol, a chant eu magu ar gyfer eu cnu (gwlan), eu cig (cig oen, hesbin, gwedder (cig mollt) neu gig dafad) a'u llaeth. Gwlân dafad yw'r ffibr anifail a ddefnyddir fwyaf, ac fel arfer caiff ei dorri a'i gasglu trwy gneifio. Gelwir cig defaid fel arfer yn Gymraeg yn gig oen. Mae defaid yn parhau i fod yn bwysig i wlân a chig heddiw, ac yn achlysurol hefyd yn cael eu magu ar gyfer eu crwyn i wneud dillad neu garpedi, ac fel anifeiliaid llaeth.

Mae ffermio defaid yn cael ei harfer ledled y rhan fwyaf o'r byd, ac mae wedi bod yn sylfaenol i sawl gwareiddiad. Yn y cyfnod modern, Awstralia, Seland Newydd, cenhedloedd de a chanol De America, ac Chymru yw prif ffermwyr defaid y byd.

Gan eu bod yn anifail allweddol yn hanes ffermio, mae defaid wedi bod yn agos at bobl ers milenia. Fel anifail fferm, mae defaid yn cael eu cysylltu amlaf â delweddau bugeiliol ac yn symbol o ddiniweidrwydd neu'n dilyn hyn a llall. Mae defaid yn ymddangos mewn llawer o fytholegau — megis y Cnu Aur — a llawer o grefyddau, yn enwedig y traddodiadau Abrahamaidd. Mewn defodau crefyddol hynafol a modern, defnyddir defaid fel anifeiliaid fel aberth.

Nid yw union linell y llinach rhwng defaid dof a'u hynafiaid gwyllt yn hollol glir.[2] Mae'r ddamcaniaeth fwyaf cyffredin yn nodi bod Ovis aries yn ddisgynnydd i'r mwfflon gwyllt (O. gmelini); disgynnydd lledwyllt i'r ddafad ddof yw mwfflon yr Ewrop (Ovis aries musimon).[3] Roedd defaid ymhlith yr anifeiliaid cyntaf i gael eu dofi gan ddynolryw (er ei bod yn bosibl bod dofi cŵn wedi digwydd dros 20,000 o flynyddoedd ynghynt). Amcangyfrifir bod y dyddiad dofi defaid yn disgyn rhwng 11,000 a 9,000 CC ym Mesopotamia[4][5][6][7] ac o bosibl tua 7,000 CC ym Mehrgarh yn Nyffryn Indus.[8][9][10] I ddechrau, roedd defaid yn cael eu cadw ar gyfer cig, llaeth a chrwyn yn unig. Mae tystiolaeth archeolegol o gerflunwaith a ddarganfuwyd ar safleoedd yn Iran yn awgrymu y gallai amaethwyr cynnar fod wedi dechrau dewis defaid gwlanog tua 6,000 CC,[3][11] ac mae'r dillad gwlân gwehyddu cynharaf wedi'u dyddio i ddwy neu dair mil o flynyddoedd yn ddiweddarach.[12]

Ymledodd bugeilio a ffermio defaid yn gyflym yn Ewrop. Dengys cloddiadau archaeolegol, tua 6,000 CC, yn ystod y cyfnod Neolithig o gynhanes, fod y bobl Castelnofiaidd, a oedd yn byw o amgylch Châteauneuf-les-Martigues ger Marseille heddiw yn ne Ffrainc, ymhlith y cyntaf yn Ewrop i gadw defaid dof.[13] Yn ymarferol o'i gychwyn, roedd gwareiddiad Groeg hynafol yn dibynnu ar ddefaid a dywedir eu bod yn enwi'r anifeiliaid unigol.[14] Roedd y Rhufeiniaid Hynafol yn cadw defaid ar raddfa fawr, ac yn bwysig am iddynt ledaenu a magu defaid drwy ddethol y mathau mwyaf addas. Somia Plinius yr Hynaf yn ei Naturalis Historia, am ddefaid a gwlan.[15] Lledaenodd gwladychwyr Ewropeaidd yr arferiad i'r Byd Newydd o 1,493 ymlaen.[16][17]

  1. Alberto, Florian J.; Boyer, Frédéric; Orozco-Terwengel, Pablo; Streeter, Ian; Servin, Bertrand; De Villemereuil, Pierre; Benjelloun, Badr; Librado, Pablo et al. (2018). "Convergent genomic signatures of domestication in sheep and goats". Nature 9 (1): 813. Bibcode 2018NatCo...9..813A. doi:10.1038/s41467-018-03206-y. PMC 5840369. PMID 29511174. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5840369.
  2. "Molecular analysis of wild and domestic sheep questions current nomenclature and provides evidence for domestication from two different subspecies". Proc. Biol. Sci. 269 (1494): 893–904. 2002. doi:10.1098/rspb.2002.1975. PMC 1690972. PMID 12028771. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1690972.
  3. 3.0 3.1 Ensminger, p. 5
  4. Ensminger, p. 4
  5. Weaver, pp. 11–14
  6. Simmons & Ekarius, p. 2
  7. Krebs, Robert E.; Carolyn A. (2003). Groundbreaking Scientific Experiments, Inventions & Discoveries of the Ancient World. Westport, CT: Greenwood Press. ISBN 978-0-313-31342-4.
  8. Franke, Ute. "Prehistoric Balochistan: Cultural Developments in an Arid Region". In Markus Reindel; Karin Bartl; Friedrich Lüth; Norbert Benecke (gol.). Palaeoenvironment and the Development of Early Settlements (yn Saesneg). ISBN 978-3-86757-395-5.
  9. Meadow, Richard H. (1991). Harappa Excavations 1986–1990 A Multidisciplinary Approach to Third Millennium Urbanism. Madison Wisconsin: PREHISTORY PRESS. tt. 94 Moving east to the Greater Indus Valley, decreases in the size of cattle, goat, and sheep also appear to have taken place starting in the 6th or even 7th Millennium BC (Meadow 1984b, 1992). Details of that phenomenon, which I have argued elsewhere was a local process at least for sheep and cattle (Meadow 1984b, 1992).
  10. Chessa, B.; Pereira, F.; Arnaud, F.; Amorim, A.; Goyache, F.; Mainland, I.; Kao, R. R.; Pemberton, J. M. et al. (2009). "Revealing the History of Sheep Domestication Using Retrovirus Integrations". Science 324 (5926): 532–536. Bibcode 2009Sci...324..532C. doi:10.1126/science.1170587. PMC 3145132. PMID 19390051. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3145132.
  11. Weaver, p. 11
  12. Smith et al., p. 8
  13. Max Escalon de Fonton, L'Homme avant l'histoire, p. 16–17, in Histoire de la Provence, Editions Privat, Toulouse, 1990. See also F. Bourdier, Préhistoire de France (Paris, 1967) and G. Bailloud, Les civilisations Néolithiques de la France (Paris, 1955).
  14. Weaver, p. 13
  15. Pliny the Elder (1855) [77]. "Naturalis Historia". Perseus Digital Library. Tufts University. tt. Chapters 72–75. Cyrchwyd 2007-12-29.
  16. Ensminger
  17. Weaver, p. 12

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search