Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Welsh Liberal Democrats
ArweinyddJane Dodds
Sefydlwyd3 Mawrth 1988 (1988-03-03)
PencadlysTŷ Brunel
2 Heol Fitzalan
Caerdydd
CF24 0EB [1]
Asgell yr ifancRhyddfrydwyr Ifanc Cymru
Rhestr o idiolegauRhyddfrydiaeth[2]
Rhyddfrydiaeth gymdeithasol[2]
Rhyddfrydiaeth glasurol
Ffederaliaeth
Ewropeaiddiaeth
Sbectrwm gwleidyddolCanol I Canol Chwith
Plaid yn y DUY Democratiaid Rhyddfrydol (DU)
Partner rhyngwladolRhyddfrydiaeth Rhyngwladol
Cysylltiadau EwropeaiddCynghrair Rhyddfrydwyr a Democratiaid Ewrop
Tŷ'r Cyffredin (Seddi Cymru)
0 / 40
Senedd Cymru
1 / 60
Llywodraeth leol yng Nghymru[3]
63 / 1,253
Gwefan
https://www.demrhyddcymru.cymru

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn gangen o Ddemocratiaid Rhyddfrydol ffederal yng Nghymru. Arweinir y blaid gan Jane Dodds, a wasanaethodd fel AS dros Brycheiniog a Sir Faesyfed o isetholiad Awst 2019, tan yr etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr 2019.[4] Ar hyn o bryd mae gan y blaid 1 aelod etholedig yn y Senedd a dim seddi o Gymru yn Nhŷ'r Cyffredin y DU.

Trechwyd Mark Williams, a oedd ar y pryd yn Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, yn etholiad cyffredinol 2017 yn ei etholaeth yng Ngheredigion gan Ben Lake o Plaid Cymru, ble gafodd fwyafrif o 104, y sedd mwyaf ymylol yn y wlad. Gadawodd y canlyniad y blaid heb AS yng Nghymru; roedd y blaid a'i rhagflaenwyr wedi dal seddi seneddol yng Nghymru yn barhaus ers ffurfio'r Blaid Ryddfrydol ym 1859.[5] Gwaethygodd y sefyllfa yn Etholiad Senedd Cymru, 2021 gyda gostyngiad yn y bleidlais o 4.9% (gogwydd: -3.8%) a chollwyd sedd Kirsty Williams yn Brycheiniog a Sir Faesyfed (etholaeth Senedd Cymru) i James Evans, Ceidwadwyr, gyda mwyafrif o 3,820, ond cawsant un aelod, yn y rhanbarthau, fel cysur.[6]

  1. "Contact Us". Welsh Liberal Democrats. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-01-17. Cyrchwyd 2020-07-20.
  2. 2.0 2.1 Nordsieck, Wolfram (2016). "Wales/UK". Parties and Elections in Europe. Cyrchwyd 7 Hydref 2018.
  3. "Wales". Open Council Data UK. Cyrchwyd 11 Tachwedd 2019.
  4. "Brecon & Radnorshire parliamentary constituency - Election 2019" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-12-23.
  5. "No Liberal MP in Wales for the first time since 1859". BBC. 9 Mehefin 2017. Cyrchwyd 10 Mehefin 2017.
  6. walesonline.co.uk; adalwyd 10 Mai 2021.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search