Deu-chwilfrydig

Term ar gyfer person sy'n uniaethu'n heterorywiol yn gyffredinol ond sy'n teimlo neu ddangos rhyw ddiddordeb rhywiol tuag at berson o'r un ryw yw deu-chwilfrydig. Weithiau cymhwysir y term at berson sy'n uniaethu'n gyfunrywiol ond sy'n teimlo neu ddangos rhyw ddiddordeb rhywiol tuag at berson o'r rhyw arall. Awgryma'r term bod yr unigolyn heb unrhyw brofiad rhywiol – neu efallai gydag ychydig o brofiad – o'r fath yna, ond gall berson parháu i hunan-uniaethu'n ddeu-chwilfrydig os nad ydynt yn teimlo fel eu bod wedi archwilio'r teimladau hyn yn ddigonol, neu os nad ydynt yn ystyried eu teimladau yn wir ddeurywiol.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search