Dinbych-y-pysgod

Dinbych-y-pysgod
Mathtref bost, tref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,696 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Arfordir Penfro Edit this on Wikidata
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd625.67 ha Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaHwlffordd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6714°N 4.6994°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001032 Edit this on Wikidata
Cod OSSN129007 Edit this on Wikidata
Cod postSA70 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auSamuel Kurtz (Ceidwadwyr)
AS/auHenry Tufnell (Llafur)
Map

Tref gaerog lan y môr a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Dinbych-y-pysgod[1][2] (Saesneg: Tenby). Saif yn ne'r sir, ar Fae Caerfyrddin. Mae'n bosib y cafodd y lle ei sefydlu gan y Llychlynwyr. Datblygodd fel harbwr pysgota a phorthladd masnachu, a thyfodd tref o amgylch y castell sydd bellach yn adfeilion. Heddiw, mae Dinbych yn gyrchfan wyliau boblogaidd.

Y Promenâd yn Ninbych-y-pysgod

Mae'r atyniadau lleol yn cynnwys 4 km o draethau tywod, muriau hynafol y dref sy'n dyddio o'r 13g ac yn cynnwys Porth y Pum Bwa, Eglwys Fair sy'n dyddio o'r 15g, Tŷ'r Marsiandwr Tuduraidd (eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, amgueddfa'r dref â'i oriel, a rhan o Lwybr Arfordirol Sir Benfro. Mae cychod bach yn hwylio'n rheolaidd o harbwr Dinbych i Ynys Bŷr a'i mynachlog enwog. Gellir cyrraedd Ynys Catrin, yn y bae gyferbyn â'r dref, ar hyd sarn pan fo'r llanw'n isel.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Samuel Kurtz (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Henry Tufnell (Llafur).[4]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 10 Tachwedd 2021
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search