Draig

Llun o ddraig mewn llawysgrif ganoloesol.

Creadur mytholegol yw draig sy'n perthyn i sawl diwylliant o gwmpas y byd, o ogledd-orllewin Ewrop i Siapan.

Yr enghraifft enwocaf o ddraig yn niwylliant Cymru yw'r Ddraig Goch, symbol cenedlaethol amlycaf Cymru, a gysylltir â Dinas Emrys a'r brwydrau rhwng y Cymry a'r Eingl-Sacsoniaid am oruchafiaeth yn Ynys Brydain.

Gelwir rhai rhywogaethau o anifeiliaid yn ddreigiau hefyd, fel y Ddraig Komodo er enghraifft.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search