Dydd Calan

Gall Calan hefyd gyfeirio at y dydd cyntaf o'r mis: Calan Mai, Calan Gaeaf

Dydd Calan yw'r enw ar gyfer diwrnod cyntaf y flwyddyn, sef 1 Ionawr. Gall y gair "calan" hefyd gyfeirio at ddydd cyntaf mis. Arferid credu nifer o goelion a oedd yn berthnasol i'r diwrnod cyntaf o'r flwyddyn e.e. arwyddocâd y person cyntaf i ddod dros trothwy'r drws. Ym Mhenfro aethpwyd â dŵr o gwmpas y tai i'w ddiferyd dros y trigolion i sicrhau hapusrwydd am weddill y flwyddyn. Roedd hel calennig yn arferiad drwy Gymru benbaladr. Mewn ardaloedd eraill yr arferiad oedd i ddyn penddu ymweld â'r tŷ efo darn o lo; deuai hyn â lwc dda i'r trigolion.

Yn 1752 newidiwyd y dyddiad i'r un presennol; cyn hynny diwrnod cynta'r flwyddyn oedd 13 Ionawr[1]. Mae rhai ardaloedd yn dal i ddathlu'r Hen Galan e.e. Cwm Gwaun a Llandysul ar sail yr hen galendr Iwlaidd gafodd ei ddisodli ym 1752 gan galendr Gregori.[2]

  1. Gwefan y BBC; Dathlu'r Hen Galan er gwaetha'r tywydd; adalwyd 05/101/2013
  2. Gwefan y BBC; Dathlu'r Hen Galan o hyd ; adalwyd 05/01/2013

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search