Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig | |
---|---|
Ganwyd | 21 Ebrill 1926 Mayfair |
Bu farw | 8 Medi 2022 o heneidd-dra Castell Balmoral |
Swydd | Brenhines y gwledydd canlynol:
|
Tad | Siôr VI, brenin y Deyrnas Unedig |
Mam | Elizabeth Bowes-Lyon |
Priod | y Tywysog Philip, Dug Caeredin |
Plant | Siarl III, Anne, y Dywysoges Reiol, y Tywysog Andrew, Dug Caerefrog, y Tywysog Edward, Dug Caeredin |
Llinach | Tŷ Windsor |
llofnod | |
Roedd Elisabeth II (Elizabeth Alexandra Mary; 21 Ebrill 1926 – 8 Medi 2022) yn Frenhines Y Deyrnas Unedig a teyrnasoedd y Gymanwlad o 6 Chwefror 1952 hyd ei marwolaeth. Bu'n teyrnasu dros 32 gwladwriaeth sofran yn ystod ei bywyd, gan wasanaethu fel brenhines 15 ohonynt ar amser ei marwolaeth. Ei theyrnasiad o 70 mlynedd a 214 diwrnod oedd yr hiraf o unrhyw frenin neu frenhines y Deyrnas Unedig neuDeyrnas Lloegr.[1] Roedd hi ymhlith y breninesau a'r brenhinoedd hiraf eu teyrnasiad yn y byd, a'r ail hiraf yn hanes gwledydd sofran y tu ôl i Louis XIV, brenin Ffrainc.
Ei theitl llawn oedd Elizabeth yr Ail, Brenhines, trwy Ras Duw, Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd yr Iwerddon a'i Theyrnasoedd a'i Thiriogaethau eraill, Pennaeth y Gymanwlad, Amddiffynnydd y Ffydd. Yn ogystal â bod yn Frenhines Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, Elisabeth II oedd Pennaeth Gwladwriaethau Nghanada, Awstralia, Seland Newydd, Jamaica, Barbados, Bahamas, Grenada, Papua Gini Newydd, Ynysoedd Solomon, Twfalw, Sant Lwsia, Saint Vincent a'r Grenadines, Antigwa a Barbiwda, Belîs a Sant Kitts-Nevis, lle roedd hi'n cael ei chynrychioli gan Lywodraethwr Cyffredinol. Roedd hefyd yn Bennaeth y Gymanwlad.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search