Emanuel Swedenborg | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 29 Ionawr 1688 ![]() Stockholm, Jakob and Johannes parish ![]() |
Bu farw | 29 Mawrth 1772 ![]() o strôc ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | Sweden ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ffisegydd, athronydd, diwinydd, mathemategydd, cyfrinydd, ysgrifennwr, gwyddonydd, dyfeisiwr ![]() |
Cyflogwr | |
Tad | Jesper Swedberg ![]() |
Llinach | Swedenborg ![]() |
llofnod | |
![]() |
Athronydd, gwyddonydd, diwinydd a chyfrinydd Cristnogol o Sweden oedd Emanuel Swedenborg (8 Chwefror [29 Ionawr yn yr Hen Ddull] 1688 – 29 Mawrth 1772) a ystyrir yn un o'r prif feddylwyr yn nhraddodiad cyfriniol y Gorllewin. Ysgrifennodd nifer o destunau yn yr iaith Ladin, gan gynnwys dehongliadau o'r Ysgrythurau fel gair digyfrwng Duw. Pontiodd ei fywyd a'i waith oesoedd yr Oleuedigaeth a Rhamantiaeth, a châi ei syniadaeth ddylanwad pwysig ar sawl mudiad deallusol a chrefyddol wedi ei farwolaeth. Gelwir ei dysgeidiaeth, sy'n ddiarhebol dywyll a dwfn, yn Swedenborgiaeth, a sefydlwyd Eglwys y Jeriwsalem Newydd ar ei sail.
Ganed ef yn Stockholm, yng nghyfnod Ymerodraeth Sweden, i deulu amlwg a chefnog. Ymddisgleiriodd yn ei astudiaethau ers ei flynyddoedd cynnar, a chafodd yrfa lwyddiannus fel gwyddonydd a pheiriannydd. Yn ogystal â'i ymchwil ym maes ffiseg a'i waith mathemategol, dyfeisiodd fodd i adeiladu dociau sych a dyluniodd long danfor gynnar.
Wedi iddo droi'n 30 oed, symudodd ei sylw tuag at athroniaeth a metaffiseg, ac aeth ar daith ysbrydol. Honnodd ei fod wedi cael sawl profiad goruwchnaturiol gan gynnwys gweld angylion ac ysbrydion. Credodd i Dduw ei benodi i ddatguddio gwirionedd y byd ysbrydol a bywyd ar ôl marwolaeth. Ei gampwaith ydy Arcana Caelestia, a gyhoeddwyd mewn wyth cyfrol o 1749 i 1756.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search