Gemau Olympaidd yr Haf 2012

Gemau'r XXX Olympiad
DinasLlundain, Lloegr
ArwyddairInspire a Generation
(Ysbrydola Genhedlaeth)
Gwledydd sy'n cystadlu183 (wedi cymhwyso)
204 (amcangyfrif)
Athletwyr sy'n cystadlu10,500 (amcangyfrif)
Cystadlaethau302 mewn 26 o Chwaraeon Olympaidd
Seremoni Agoriadol27 Gorffennaf
Seremoni Gloi12 Awst
Stadiwm OlympaiddStadiwm Olympaidd Llundain

Digwyddiad aml-chwaraeon rhyngwladol pwysig oedd Gemau Olympaidd yr Haf 2012, a adnabyddir yn swyddogol fel Gemau'r XXX Olympiad ac a gynhaliwyd yn Llundain, Lloegr o 27 Gorffennaf hyd 12 Awst 2012.[1] Roedd oddeutu 10,000 o athletwyr o 204 o Bwyllgorau Cenedlaethol Olympaidd yn cymryd rhan.[2] O ran nifer y medalau, Unol Daleithiau America a orfu, gyda Tsieina'n ail a Phrydain yn drydydd.

Cytunwyd ar y lleoliad ar 6 Gorffennaf, 2005 ar eisteddiad y 117fed sesiwn o'r corff rheoli a oedd yn cyfarfod yn Singapôr, pan drechwyd ymgais Moscow, Madrid a Paris. Arweinyddion yr ymgais am y gemau ar ran Llundain oedd Sebastian Coe a Ken Livingstone.[3] Llundain oedd y ddinas gyntaf i gynnal y Gemau Olympaidd modern deirgwaith,[4][5] wedi iddynt gynnal Gemau Olympaidd yr Haf 1908 ac 1948.[6][7]

Bu beirniadaeth ynglŷn â chyllid y gemau,[8][9] ond croesawyd hwy gan eraill oherwydd yr ail-ddatblygu y buasai'n digwydd yn nwyrain Llundain – yn enwedig ar sail cynaliadwyedd.[10] Canolbwynt y gemau oedd Parc Olympaidd 200 hectar, a adeiladwyd ar gyn-safle ddiwydiannol yn Stratford, Llundain.[11] Defnyddiodd y Gemau hefyd nifer o leoliadau oedd eisoes wedi eu hadeiladu cyn cychwyn y cais.

  1.  International Olympic Committee – London 2012. Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Awst 2008. Adalwyd ar 3 Awst 2008.
  2. "Olympics – Countries". BBC Sport. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2012. From the 27th of July 2012 – 204 countries will send more than 10,000 athletes to compete in 300 events
  3.  London 2012: Election. Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Hydref 2009. Adalwyd ar 2 Hydref 2009.
  4.  Coe promises Olympics to remember. BBC Sport (6 Gorffennaf 2005). Adalwyd ar 3 Awst 2008.
  5. Mae Athen hefyd wedi cynnal tri digwyddiad a drefnwyd gan y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol, 1896, 2004 a'r Gemau Intercalated yn 1906. Ond nid yw Gemau 1906 yn cael ei gydnabod gan y pwyllgor bellach, gan nad ydynt yn ffitio patrwm pedair blynyddol y Gemau Olympaidd modern.
  6.  London's first Olympics. BBC Sport (26 Ebrill 2008).
  7.  The 1948 London Olympics Gallery. BBC History. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Gorffennaf 2008. Adalwyd ar 3 Awst 2008.
  8.  London plan at-a-glance. BBC News (5 Mehefin 2005). Adalwyd ar 2 Hydref 2009.
  9.  What is the London 2012 Olympics?. politics.co.uk (24 Ebrill 2008). Adalwyd ar 2 Hydref 2009.
  10.  Building a sustainable Games. London 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Hydref 2009. Adalwyd ar 2 Hydref 2009.
  11.  Newham London: The Olympic Park. London Borough of Newham. Adalwyd ar 1 Ebrill 2012.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search