Genyn

Segment o DNA yw'r genyn, sy'n encodio ffwythiant arbennig. Mae cromosom yn cynnwys llinell hir iawn o DNA sy'n cynnwys genynnau. Gall cromosom dynol gynnwys hyd at 500 miliwn o barau o DNA, sydd â miloedd o genynnau.
Y mynach Gregor Mendel (1822–1884).

Segment neu ran o'r DNA sy'n encodio RNA (neu brotin yw genyn (ll. genynnau), sy'n uned foleciwlar ac yn rhan o etifeddeg.[1][2] Trosglwyddo genynnau i'r epil yw'r prif ddull o drosglwyddo nodweddion ffenotypig. Caiff mathau gwahanol o genynnau (a chydadwaith genyn-amgylchedd) ddylanwad mawr ar nodweddion biolegol organebau. Mae rhai o'r nodweddion hyn yn weledol: lliw llygad, sawl troed, braich neu fus, ac eraill nad ydynt yn weladwy e.e. teip gwaed, y risg o ddal clefyd arbennig, neu'r miloedd o brosesau hynny sy'n ffurfio yr hyn a elwir yn 'fywyd'.

Gall genynnau fwtanu (mutate) o fewn eu cyfres, gan arwain at amrywiolion o fewn eu poblogaeth, a elwir yn alelau. Mae'r alelau hyn yn codio mathau gwahanol o brotin, sy'n arwain at nodweddion o ffenodeipiau gwahanol.

Mae'r cysyniad o genyn yn parhau i gael ei newid a'i ail-ddiffinio wrth i wyddoniaeth ddarganfod ffenomenâu gwahanol, a gwybodaeth newydd yn dod i'r fei.[3]

  1. Slack, J.M.W. Genes-A Very Short Introduction. Oxford University Press 2014
  2. Alberts B, Johnson A, Lewis J, Raff M, Roberts K, Walter P (2002). Molecular Biology of the Cell (arg. y bedwaredd rhifyn). Efrog Newydd: Garland Science. ISBN 978-0-8153-3218-3.
  3. Gericke, Niklas Markus; Hagberg, Mariana (5 Rhagfyr 2006). "Definition of historical models of gene function and their relation to students’ understanding of genetics". Science & Education 16 (7-8): 849–881. Bibcode 2007Sc&Ed..16..849G. doi:10.1007/s11191-006-9064-4.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search