Geraint Jones (Trefor)

Geraint Jones
GanwydGwynedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
PlantMorgan Jones Edit this on Wikidata

Awdur Cymraeg, cerddor ac ymgyrchydd iaith yw Geraint Jones. Fo oedd y cyntaf i fynd i'r carchar fel rhan o'r ymgyrch dros yr iaith Gymraeg. Roedd yn un o sefydlwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac yn ymwneud â gwleidyddiaeth lleol yn ardal Trefor chyngor dosbarth Dwyfor. Gwynedd. Mae yn arweinydd Seindorf Arian Trefor ers 1969 ac yn aelod o'r Seindorf ers 68 o flynyddoedd. Bu yn brifathro'r ysgol leol. [1] Mae o bellach yn un o brif arweinwyr Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, ac yn olygydd ar ei chylchgrawn digidol hi, sef Yr Utgorn, a gyhoeddir yn chwarterol ar lein ac ar grynoddisg ac a ddosberthir i'r deillion - ac i rai eraill sydd yn talu amdano.

Cafodd Jones ei addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae ei fab, Morgan Jones, yn gyflwynydd teledu sy'n adnabyddus fel prif gyflwynydd y rhaglen chwaraeon Sgorio ar S4C. Mae hefyd yn gyflwyno sgyrsiau Yr Utgorn. Mae ei ferch, Caren, yn nyrsio.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023 dyfarnwyd Medal Syr T.H. Parry-Williams iddo.

  1. Gwefan y BBC - Seindorf Arian Trefor

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search