![]() | |
![]() | |
Math | dinas, dinas fawr, y ddinas fwyaf, lieutenancy area of Scotland ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 626,410 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Philip Braat ![]() |
Gefeilldref/i | Bethlehem, Nürnberg, Marseille, Rostov-ar-Ddon, Torino, La Habana, Lahore, Barga, Dalian, Dinas Mecsico ![]() |
Nawddsant | Cyndeyrn ![]() |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Yr Alban ![]() |
Sir | Dinas Glasgow ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 3,298 ±1 km² ![]() |
Gerllaw | Afon Clud, River Kelvin ![]() |
Yn ffinio gyda | Aberfoyle, De Swydd Lanark ![]() |
Cyfesurynnau | 55.8611°N 4.25°W ![]() |
Cod SYG | S19000510 ![]() |
Cod OS | NS590655 ![]() |
Cod post | G1-G80 ![]() |
GB-GLG ![]() | |
Pennaeth y Llywodraeth | Philip Braat ![]() |
![]() | |
Dinas fwya'r Alban yw Glasgow (Brythoneg: Glascou[1] Gaeleg yr Alban: Glaschu;[2] Sgoteg: Glesca)[3] a pedwaredd dinas fwyaf gwledydd Prydain o ran maint[4]. Saif ar Afon Clud yng ngorllewin iseldiroedd y wlad. Er taw Glasgow yw dinas fwyaf yr Alban, Caeredin, yr ail fwyaf, yw'r brifddinas.
Credir bod yr enw, fel llawer o leoedd eraill yn iseldiroedd yr Alban, o darddiad Brythoneg - "glas cau". Dywedir i'r ddinas dyfu ar safle mynachlog a sefydlwyd gan Sant Cyndeyrn, sydd a chysylltiad cryf gyda Llanelwy.
Sefydlwyd Prifysgol yno yn y 15g. Daeth Glasgow yn brif ganolfan y byd i'r diwydiant adeiladu llongau yn sgil y Chwyldro Diwydiannol, a daeth yn borthladd pwysig iawn hefyd, ond dirywiodd ei statws rywfaint yn ystod yr 20g. Caidd ei chyfri hefyd fel ardal a fu'n ganolfan bwysig i ddatblygiad peirianneg trwm.[5] Oherwydd hyn arferid ei galw'n "Second City of the British Empire" am ran helaeth o Oes Victoria a'r cyfnod Edwardaidd.[6]
Yn 2012 cyfrifid hi'n un o 10 o ddinasoedd trin arian mwya'r byd.[7]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search