Globaleiddio

Mae'r term globaleiddio yn cyfeirio at y gyd-ddibyniaeth, integreiddiad a rhyngweithiad cynyddol rhwng pobl a chwmnïau ar draws y byd. Mae'r broses hon yn lleihau rhwystrau rhyngwladol ac felly'n arwain at gydberthnasau economaidd, masnachol, cymdeithasol, technolegol, diwylliannol, gwleidyddol ac amgylcheddol.

Mae sawl diffiniad posib o lobaleiddio. Yn ôl Encyclopedia Britannica, "proses lle mae'r profiad o fywyd pob dydd ... yn dod yn fwyfwy unfath ar draws y byd" ydyw. Mewn economeg, gellid diffinio Globaleiddio yn gydgyfeiriad prisiau, cynnyrch, cyflogau, cyfraddau buddiant ac elw tuag at yr hyn sy'n arferol mewn gwledydd "datblygedig". Dibynna globaleiddio economaidd ar rôl mudo dynol, masnach ryngwladol, symudiad cyfalaf, a chyfuniad marchnadoedd ariannol. Mae'r IMF yn nodi fod gwledydd ledled y byd yn dibynnu fwyfwy ar ei gilydd yn economegol, a hynny trwy gynnydd mewn maint ac amrywiant cyfathrach ariannol rhyngwladol ac yn y blaen. Dywedir mai Theodore Levitt oedd y cyntaf i ddefnyddio'r term mewn cyd-destyn economaidd.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search