Graffiti

Graffiti fel celf: "Miss Van y Ciou", Barcelona, Sbaen.
Graffiti gang yn Llanrug, Gwynedd.

Graffiti (o'r gair Eidaleg graffiti) yw delweddau neu ysgrifen a roddir ar arwynebau gweladwy cyhoeddus fel muriau a phontydd. Mae graffiti o ryw fath wedi bodoli ers cyfnodau cynnar iawn mewn hanes, e.e. yn Ngroeg yr Henfyd a'r Ymerodraeth Rufeinig. Yn bennaf mae graffiti yn rhoi llais i'r rhai sy'n teimlo'n ddi-lais, ond maen nhw hefyd yn gallu cyflawni amryw o weithrediafau sraill.

Yn aml mae'r graffiti cynharaf yn cymryd y ffurf o dorri enw neu neges ar garreg mewn mannau cyhoeddus (e.e. "Roeddwn i yma" ar golofn adeilad). Gyda threigliad amser mae graffiti wedi newid a heddiw ceir yr hyn a elwir yn "graffiti modern", sef creu graffiti ar arwyneb cyhoeddus gan ddefnyddio paentiau sbrae, pens marcer, a deunyddiau eraill. Pan greir graffiti o'r fath heb ganiatad y perchennog gellir ei ystyried yn fandaliaeth, sy'n drosedd yn y rhan fwyaf o wledydd y byd.

Gall graffiti gael ei ddefnyddio i gyfleu neges wleidyddol neu gymdeithasol (er enghraifft "Do all you can, the English need the water" mewn toiled cyhoeddus yng Nghymru - cyfeiriad at Gapel Celyn[1]), neu fel math o "hysbysebu" (mae nifer o giangiau cymdogaeth yn nodi eu tiriogaeth felly yn ninasoedd yr Unol Daleithiau, er enghraifft). Erbyn heddiw mae rhai mathau o graffiti yn cael eu hystyried yn weithiau celf modern, a gellir eu gweld mewn sawl arddangosfa ac amgueddfa ledled y byd.

i ba raddau y mau grym graffiti yn dibynnu ar y ffactor 'tabŵ'. Cawsant eu parchuso rhywfaint yn y blynyddoedd diwethaf gyda Banksey yn cyfuno eu "gwerth" fel celf gyda gwedd anhysbys cyrion cymdeithas. Yn ddiddorol hefyd mewn parciau sglefr-fyrddau ayb. comisiynwyd artistiaid graffiti i ddylunio graffiti "coeth" i geisio milwrio yn erbyn y graffiti go iawn trwy amddifadu lle iddynt.

  1. Nigel Rees, Graffiti lives OK, 1979.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search