Gwibgymalwst

Gwibgymalwst
Ffotograff o gefn person, gyda'r croen yn nodweddiadol o'r Gwibgymalwst.
Croen yn nodweddiadol o'r Gwibgymalwst
Dosbarthu a chyfeiriadaeth allanol
ArbenigeddHeintiau
ICD-ICD-10A90.
ICD- 9061
OMIM614371
Afiechydon3564
MedlinePlus001374
eMedicinemed/528
Patient UKGwibgymalwst
MeSHC02.782.417.214

Haint sy'n cael ei ymledu gan y mosgito yn y trofannau yw'r gwibgymalwst. Mae'r symtomau i'w gweld fel arfer rhwng tridiau a phythefnos wedi i'r claf gael ei bigo gan y mosgito.[1] Gall y symtomau hyn gynnwys tymheredd uchel (twymyn), cur pen, taflu i fyny, poen yn y cyhyrau a'r cymalau a brech dros rhan o'r croen.[1][2]

Mae'r claf fel arfer yn cymryd rhwng dau a saith diwrnod i wella.[1] Mewn canran fechan o'r achosion mae'r clefyd yn datblygu i fod yn fygythiad i fywyd y claf, a gall waedu, lleihau'r nifer o blatennau yn y gwaed, colli plasma neu fynd i 'lewyg y gwibgymalwst' (dengue shock) ble mae'r pwysau gwaed yn beryglus o isel.[2] Gall y symtomau fod yn eitha tebyg i'r rheiny a achosir gan y y Feirws Zika.

  1. 1.0 1.1 1.2 "Dengue and severe dengue Fact sheet N°117". WHO. Mai 2015. Cyrchwyd 3 Chwefror 2016.
  2. 2.0 2.1 Kularatne, SA (15 Medi 2015). "Dengue fever.". BMJ (Clinical research ed.) 351: h4661. PMID 26374064.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search