Math | brenhiniaeth gyfansoddiadol, gwladwriaeth sofran, gwlad |
---|---|
Prifddinas | Bangkok |
Poblogaeth | 66,188,503 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Anthem Genedlaethol Gwlad Tai |
Pennaeth llywodraeth | Peatongtarn Shinawatra |
Cylchfa amser | UTC+07:00, Asia/Bangkok |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Tai |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De-ddwyrain Asia |
Gwlad | Gwlad Tai |
Arwynebedd | 513,119.5 km² |
Yn ffinio gyda | Laos, Cambodia, Maleisia, Myanmar, Gweriniaeth Khmer, Kedah |
Cyfesurynnau | 14°N 101°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Gwlad Tai |
Corff deddfwriaethol | Deddfwrfa Cenedlaethol Gwlad Tai (2014) |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Brenin Gwlad Tai |
Pennaeth y wladwriaeth | Maha Vajiralongkorn |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Gwlad Tai |
Pennaeth y Llywodraeth | Peatongtarn Shinawatra |
Crefydd/Enwad | Bwdhaeth, Islam, Cristnogaeth |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $505,568 million, $495,341 million |
Arian | Baht |
Canran y diwaith | 0.9 canran |
Cyfartaledd plant | 1.54 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.8 |
Gwlad annibynnol yn ne-ddwyrain Asia yw Teyrnas Gwlad Tai neu Gwlad Tai (hefyd weithiau Gwlad y Thai). Mae hi'n ffinio â Laos a Chambodia i'r dwyrain, Laos a Myanmar i'r gogledd, Maleisia a Gwlff Gwlad Tai i'r de a Myanmar a'r Môr Andaman i'r gorllewin. Mae ei ffiniau morwrol yn cynnwys Fietnam yng Ngwlff Gwlad Tai i'r de-ddwyrain, ac Indonesia a'r India yn y Môr Andaman i'r de-orllewin. Siam oedd enw'r wlad hyd 11 Mai 1949. Ystyr "Tai" yn yr iaith genedlaethol yw "rhyddid" a dyna yw enw prif grŵp ethnig y wlad hefyd. Bangkok yw prifddinas a dinas fwyaf y wlad a hi hefyd yw canolfan wleidyddol, fasnachol, diwydiannol a diwylliannol y wlad.
Gwlad Tai yw 50fed gwlad fwyaf y byd o ran arwynebedd (er ychydig yn llai na Iemen ac ychydig yn fwy na Sbaen), gydag arwynebedd o tua 513,000 km2 (198,000 milltiroedd sgwâr). Hi yw'r 20fed wlad fwyaf poblog, gyda 66,188,503 (31 Rhagfyr 2017)[1] o bobl yn byw ynddi. Mae 75% o'r boblogaeth yn bobl gynhenid o Wlad Tai, 14% o gefndir Tsieineaidd, a 3% o dras ethnig Malay; daw'r gweddill o grwpiau ethnig lleiafrifol yn cynnwys Mons, Khmers ac amryw o lwythau mynyddig. Iaith swyddogol y wlad yw Tai. Mae tua 95% o'r boblogaeth yn dilyn Bwdhaeth.
Mae Gwlad Tai yn un o'r gwledydd mwyaf defosiynol i Fwdhaeth yn y byd. Crefydd genedlaethol y wlad yw Bwdhaeth Theravada sy'n cael ei ddilyn gan 95% o holl drigolion y wlad. Mae diwylliannau a thraddodiadau Gwlad Tai wedi'u dylanwadu i raddau helaeth gan yr India, Tsieina a gwledydd gorllewinol eraill.
Ceir brenhiniaeth gyfansoddiadol yng Ngwlad Tai gyda'r Brenin Bhumibol Adulyadej, y nawfed brenin o Dŷ Chakri, yn teyrnasu. Mae'r Brenin wedi bod yn teyrnasu am dros hanner canrif, sy'n golygu mai ef yw'r brenin sydd wedi teyrnasu hiraf yn y byd. Ystyrir y Brenin yn Bennaeth ar y Wladwriaeth, yn Bennaeth ar y Lluoedd Arfog, Cynhaliwr y ffydd Bwdhaeth am Amddiffynnwr y Ffydd. Gwlad Tai yw'r unig wlad yn Ne-ddwyrain Asia na chafodd ei goloneiddio gan wledydd Ewropeaidd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fodd bynnag, meddiannwyd y wlad gan Fyddin Imperialaidd Japan.
Profodd Wlad Tai dwf economaidd cyflym rhwng 1985 a 1995 ac erbyn heddiw mae'n wlad newydd-ddiwydiannol gyda phwyslais ar allforion a diwydiant twristiaeth lewyrchus, o ganlyniad i gyrchfannau gwyliau byd-enwog fel Pattaya, Bangkok, a Phuket.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search