Gwlad dirgaeedig

Gwledydd tirgaeedig y byd (gwyrdd)

Gwlad dirgaeedig neu wlad dirgylch yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio gwlad a amgylchynir yn gyfan gwbl gan dir, neu wlad ac unrhyw ran o'i harfordir yn gorwedd ar fôr caeedig. Mae 47 o wledydd tirgaeedig yn y byd (gan gynnwys rhai gwledydd a gydnabyddir yn rhannol yn unig). Yr unig gyfandiroedd lle na cheir unrhyw wlad dirgaeedig yw Gogledd America ac Awstralasia.

Gwlad dirgaeedig fwyaf y byd yw Casachstan yng Nghanolbarth Asia.

Ystyrir dwy wlad yn wledydd dwbl dirgaeedig: h.y., maent wedi eu hamgylchynu yn gyfan gwbl gan wledydd tirgaeedig eraill, fel bod rhaid croesi dwy ffin er mwyn cyrraedd arfordir:

Gelwir gwlad a amgylchynir gan un wlad yn unig yn glofan. Mae 3 clofan yn y byd, sef San Marino, y Fatican a Lesotho.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search