![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | gwrthdröydd hadron, nodwedd ddaearyddol a wnaed gan bobl ![]() |
---|---|
Rhagflaenwyd gan | Large Electron–Positron Collider ![]() |
Olynwyd gan | High Luminosity Large Hadron Collider ![]() |
Perchennog | CERN ![]() |
Yn cynnwys | ATLAS experiment, CMS experiment, A Large Ion Collider Experiment, LHCb ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | Y Swistir, Ffrainc ![]() |
Rhanbarth | Genefa, Ain ![]() |
Hyd | 27 cilometr ![]() |
Gwefan | http://home.cern/topics/large-hadron-collider, http://public.web.cern.ch/public/en/lhc/lhc-en.html ![]() |
![]() |
Lleolir y Gwrthdrawydd Hadronnau Mawr (Saesneg: Large Hadron Collider) rhwng Mynyddoedd Jura a'r Alpau yn y Swistir. Dyma'r cyflymydd gronynnau mwyaf o ran maint a phŵer yn y byd. Lleolir y twnnel tua 175m dan ddaear ac mae ganddo gylchedd o 27 km. Mae'n rhan o safle CERN.
Cychwynnwyd arbrawf i geisio atgynhyrchu'r sefyllfa ffisegol yn dilyn yn union ar ôl "y Glec Fawr", sef eiliadau cyntaf y Bydysawd yn ôl damcaniaeth y Glec Fawr, am 8.35 y bore (UTC) ar y 10fed o Fedi, 2008. Yn ystod yr arbrawf roedd gronynnau is-atomig yn cael eu hyrddio at ei gilydd o fewn y gwrthdrawydd ar gyflymder yn agos i gyflymder golau. Costiodd y peiriant cyflymu gronynnau £5 biliwn. Yn anffodus, ar 19 Medi, oherwydd magned diffygiol, roedd yn rhaid ailgynhesu, atgyweirio ac yna oeri'r system. Aildaniwyd y system ar 20 Tachwedd, 2009 a chylchwyd y cylch yn llwyddiannus. Cafwyd y gwrthdaro cyntaf ar 23 Tachwedd 2009.
Mae'r prif safle ym Meyrin yn cynnwys rhwydwaith pwerus o gyfrifiaduron i drin data i ddadansoddi'r arbrofion gwyddonol.
Roedd y prosiect dan arweiniad y Dr Lyn Evans (ganwyd 1945), gwyddonydd o Gymro sy'n dod o Aberdâr.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search