Enghraifft o'r canlynol | teithio, ymfudo ![]() |
---|---|
Dyddiad | 14 Medi 622, 20 Medi 622 ![]() |
Enw brodorol | هجرة ![]() |
Y ffurf orllewinol arferol (Ffr. Hégire) ar y gair Arabeg Hijira; yn llythrennol "torri cysylltiad"; ymfudiad y Proffwyd Mohamed o Mecca i Fedina ym Medi 622.
I'r Mwslimiaid mae'r cyfieithiad gorllewinol arferol, "ffoi, ffoedigaeth," yn gyfeiliornus. Dethlir y digwyddiad ar ddiwrnod cyntaf y mis Islamaidd Rabi'l. Gelwir y rhai a ymfudodd i Medina gyda Mohamed yn muhâjirun ("yr Ymfudwyr").
Y farn gyffredinol yw mai Abû Bakr, califf cyntaf Islam, oedd yn gyfrifol am ddechrau cyfrif y blynyddoedd gyda'r Hejira yn fan gychwyn, gan greu'r calendr Islamaidd, ryw 12 neu 15 mlynedd yn ddiweddarach. Gellir defnyddio'r fformiwla a ganlyn i gael y flwyddyn yn ôl Calendr Gregori (G) sy'n cyfateb i'r flwyddyn Islamaidd: H:33=X. H-X=Y. Y+622=G.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search