Herodraeth

Gwyddor a chelfyddyd arfau ac arwyddion yw herodraeth.[1] Defnyddir symbolau herodrol i gynrychioli unigolion a theuluoedd, lluoedd milwrol, sefydliadau, corfforaethau a gwledydd. Tarddodd y fath arwyddion fel modd o adnabod unigolion ar faes y gad. Rhoddid yr arfbeisiau gwreiddiol yn arwyddnod milwrol ar darian y marchog a'i ryfelwyr. Ffynodd ddyluniadau herodrol yn yr Oesoedd Canol er mwyn dynodi teuluoedd brenhinol, tai'r bonedd, teitlau pendefigaidd, urddau crefyddol ac eglwysi, a byddinoedd. Dros amser daeth y dyluniadau'n hynod o gymhleth a herodraeth yn faes arbenigol. Datblygodd system ffurfiol iawn o dynnu arfbeisiau ac iaith dechnegol i ddisgrifio nodweddion a motiffau'r arwyddion. Rhoddir arwyddluniau ac arfbeisiau ar fathodynnau, baneri a seliau.

Hen enw arni yw arwyddfarddoniaeth.[2]

  1.  herodraeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2016.
  2.  arwyddfarddoniaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Mehefin 2019.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search