Homoffobia

Protest gan Eglwys y Bedyddwyr Westboro, grŵp a nodir gan yr Anti-Defamation League"yn wenwynig homoffobaidd".[1][2]

Term anghlinigol[3][4] a ddefnyddir i ddisgrifio ofn, gwrthnawsedd i, neu wahaniaethu yn erbyn cyfunrywioldeb neu gyfunrywiolion[5][6] yw homoffobia (o'r Roeg ὁμο homo, "cyfun" + φοβία (ffobia), "ofn"). Gall hefyd olygu casineb, gelyniaeth, anghymeradwyaeth, neu ragfarn tuag at gyfunrywiolion, neu ymddygiad neu ddiwylliannau cyfunrywiol.[6]

Cred rhai bod unrhyw ddefnydd o'r gair homoffobia yn ddadleuol[7] ac mae nifer o eiriaduron yn disgrifio'r fath hwn o ofn yn afresymol.[6][8][9] Mewn rhai defnyddiau mae'r ystyr yn ymglymu deurywioldeb, trawsrywedd ac/neu unrhyw rywioldeb nad yw'n heterorywiol yn ogystal â chyfunrywioldeb.[10][11]

  1. (Saesneg) Eglwys y Bedyddwyr Westboro. Anti-Defamation League.
  2. (Saesneg) Dyfyniadau gwrth-gyfunrywiol gan Eglwys y Bedyddwyr Westboro. Anti-Defamation League.
  3. Paula A. Treichler, AIDS, Homophobia, and Biomedical Discourse: An Epidemic of Signification, Hydref, Cyfrol 43, AIDS: Cultural Analysis/Cultural Activism (Winter, 1987), tud. 31-70.
  4. (Saesneg) PsychiatryOnline.
  5. (Saesneg) "homophobia". The American Heritage® Dictionary of the English Language: Fourth Edition.
  6. 6.0 6.1 6.2 (Saesneg) "homophobia". Merriam-Webster.
  7. (Saesneg) William O'Donohue a Christine E. Caselles. Homophobia: Conceptual, definitional, and value issues. Journal of Psychopathology and Behavioral Assessment (2005). SpringerLink.
  8. (Saesneg) "homophobia". Dictionary.com.
  9. (Saesneg) "homophobia". AOL Dictionary.
  10.  LGB: Bwlio homoffobig mewn ysgolion. "Homoffobia yw'r term am gasineb dwys o rywun am ei bod nhw ddim yn heterorywiol."
  11.  Bwlio a Homoffobia. difanc.com. "Homoffobia yw’r enw am gael eich bwlio oherwydd eich bod yn LHD."

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search