Huang He

Huang He
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirQinghai, Sichuan, Gansu, Ningxia, Mongolia Fewnol, Shaanxi, Shanxi, Henan, Shandong Edit this on Wikidata
GwladBaner Tsieina Tsieina
Cyfesurynnau36.12419°N 116.09767°E Edit this on Wikidata
TarddiadKariqu, Mynyddoedd Bayan Har Edit this on Wikidata
AberMôr Bohai Edit this on Wikidata
LlednentyddDuo Qu, Afon wen, Afon Ddu Sichuan, Afon Qushian, Afon Daxia, Afon Huangshui, Afon Datong, Afon Tao, Zhuanglang He, Zuli He, Afon Qingshui, Afon Dustu, Wujia River, Daheihe, Afon Wuding, Afon Yan, Afon Fen, Afon Sushui, Afon Wei, Qin He, Afon Yiluo, Afon Daqing, Afon Dawen, Afon Ji, Caoqukanaal, Jindi He Edit this on Wikidata
Dalgylch752,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd5,464 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad2,571 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
LlynnoeddCocha Lakes, Llyn Gyaring, Llyn Ngoring, Rhaeadr Hukou Edit this on Wikidata
Map

Afon ail-hiraf Gweriniaeth Pobl Tsieina yw'r Huang He (黃河, Huánghé), trawslythrennir hefyd fel Huang Ho, yr Afon Felen; Afon Yangtze yw'r hiraf un. Mae'n 5464 km (3,395 milltir) o hyd a hi yw'r chweched hiraf o holl afonydd y byd.[1]

Ceir tarddiad yr afon ym mynyddoedd Bayankera yn nhalaith Qinghai, 4500 medr uwch lefel y môr. Llifa tua'r dwyrain trwy saith talaith a dau ranbarth ymreolaethol: Qinghai, Sichuan, Gansu, Ningxia, Mongolia Fewnol, Shaanxi, Shanxi, Henan, a Shandong. Mae ei haber yn Dongying, Shandong, lle mae'n llifo i mewn i Fôr Bohai. Y prif ddinasoedd ar yr afon yw Lanzhou, Wuhai, Baotou, Kaifeng, Luoyang, Zhengzhou a Jinan.

Mae ei dalgylch yn 944,970 cilomedr sgwar, ond gan fod hinsawdd y rhan fwyaf o'i dalgylch yn sych, heblaw y rhan ddwyreiniol yn Henan a Shandong, mae llai o ddŵr ynddi na nifer o afonydd eraill Tsieina. Daw'r enw "yr Afon Felen" o liw y dyfroedd.

Mae ei chwrs dros y gwastadeddau yn droellog, ac mae wedi newid cwrs nifer o weithiau dros y canrifoedd. Yn y gorffennol, bu llifogydd yr afon yn gyfrifol am golli bywydau ar raddfa enfawr. Gwneir defnydd helaeth ar ddyfroedd yr afon ar gyfer dyfrhau.

Cwrs yr afon

Mae gan fasn yr Afon Felen hyd (o'r dwyrain-gorllewin) o tua (1,900 km (1,180) millt); mewn cymhariaeth mae'r pellter o Landudno i Gaerdydd tua 241.4016 km (150 milltir). Cyfanswm ei arwynebedd draenio yw tua 795,000 km sg (307 mill sg).

Ei fasn oedd man geni gwareiddiad hynafol Tsieineaidd, a hwn oedd y rhanbarth mwyaf llewyrchus yn hanes cynnar Tsieineaidd. Mae llifogydd dinistriol a newidiadau cwrs yr afon yn aml yn newid gwely'r afon, ac weithiau'n uwch na lefel y caeau fferm o'i amgylch.

  1. Yellow River (Huang He) Delta, China, Asia. Geol.lsu.edu (28 Chwefror 2000). Adalwyd 2013-02-04.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search