Hywel Dda

Hywel Dda
Ganwyd880 Edit this on Wikidata
Bu farw950 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
Swyddbrenin Edit this on Wikidata
TadCadell ap Rhodri Edit this on Wikidata
PriodElen ferch Llywarch Edit this on Wikidata
PlantOwain ap Hywel, Rhodri ap Hywel, Edwin ap Hywel, Anhysbys, Angharad ferch Hywel, Einion ap Hywel Dda ap Cadell ap Rhodri Mawr Edit this on Wikidata
LlinachLlinach Dinefwr Edit this on Wikidata
Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Oes y Tywysogion
HWB
Tystiolaeth:Oes y Tywysogion

Cyfraith Hywel Dda

Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Brenin teyrnas y Deheubarth yn ne-orllewin Cymru oedd Hywel 'Dda' ap Cadell (tua 880950).[1] Roedd yn ŵyr i Rhodri Fawr, drwy ei dad, Cadell. Ef fu'n gyfrifol am uno Ceredigion, Ystrad Tywi a Dyfed i greu teyrnas newydd y Deheubarth. Erbyn ei farwolaeth yn 950 roedd yn rheoli Gwynedd a'r rhan fwyaf o Gymru, gyda’i deyrnas yn ymestyn o Brestatyn i Benfro.[2][3]

Fel ei dad-cu, Rhodri Mawr, llwyddodd i greu ymwybyddiaeth o genedligrwydd yng Nghymru, a’i gyfraniad nodedig at hynny oedd creu cyfraith unffurf gyntaf y wlad, a adnabuwyd fel Cyfraith Hywel Dda. Fel disgynnydd i Rhodri Mawr, roedd Hywel yn aelod o linach frenhinol Dinefwr. Cofnodwyd ef fel Brenin y Brythoniaid yn yr Annales Cambriae ac Annals of Ulster. Mae’n cael ei ystyried ymhlith rheolwyr mwyaf nodedig Cymru yn ystod yr Oesoedd Canol.[3]

Roedd ei waith yn trefnu cyfreithiau traddodiadol Cymru yn gyfraniad neilltuol i helpu i greu a diffinio elfen o hunaniaeth Cymru yn yr Oesoedd Canol. Enwyd y cyfreithiau yn Gyfraith Hywel Dda ac roedd y cyfeiriad at yr ansoddair ‘da’ yn ei enw yn adlewyrchu’r ffaith bod y cyfreithiau yn cael eu hystyried yn rhai cyfiawn a theg. Roedd yr hanesydd Dafydd Jenkins yn eu gweld fel cyfreithiau trugarog yn hytrach nag fel cosbau, gyda phwyslais ar synnwyr cyffredin wrth weinyddu’r gyfraith a chydnabyddiaeth o hawliau merched yng nghyd-destun y gyfraith. Roedd Hywel Dda yn ddyn dysgedig, hyd yn oed yn ôl safonau modern, yn gyfarwydd iawn â’r Gymraeg, Lladin a Saesneg.[4]

Mae adeilad swyddfeydd a chartref gwreiddiol y Senedd wedi cael ei enwi’n ‘Tŷ Hywel’ er anrhydedd i Hywel Dda ac mae siambr wreiddiol y Cynulliad bellach yn cael ei adnabod fel Siambr Hywel. Mae bwrdd iechyd de-orllewin Cymru wedi cael ei enwi ar ei ôl hefyd.

Bu farw Elen, gwraig Hywel, yn 943, a ganwyd pedwar o blant iddynt, sef Owain, Rhodri, Edwin ac Angharad.[1][5]

  1. 1.0 1.1 Evans, Gwynfor, 1912- (1986). Seiri cenedl y Cymry. Llandysul: Gwasg Gomer. tt. 47–51. ISBN 0-86383-244-X. OCLC 16692917.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  2. "Cyfraith Hywel Dda | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-29. Cyrchwyd 2020-09-28.
  3. 3.0 3.1 Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. t. 85. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  4. Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. t. 86. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
  5. Archaeologia Cambrensis (yn Saesneg). W. Pickering. 1864.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search