Iechyd meddwl

Iechyd meddwl
Enghraifft o'r canlynolcyflwr meddwl Edit this on Wikidata
Mathseicoleg iechyd, Iechyd Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebafiechyd meddwl Edit this on Wikidata
Rhan ogwasanaethau cwnsela, llesiant a chymunedol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae iechyd meddwl yn lefel o les seicolegol, neu absenoldeb salwch meddwl.

Gallwn feddwl am iechyd meddwl yn nhermau y ffordd a deimlwn am ein hunain a’r pobl o’n cwmpas, ein gallu i wneud a chadw ffrindiau a pherthnasau, ein gallu i ddysgu gan eraill ac ein gallu i ddatblygu’n seicolegol ac yn emosiynol

Mae’n rywbeth sy’n newid ar adegau gwahanol o’n bywydau a bydd rhai pobl yn meddwl amdano fel ‘iechyd emosiynol’ neu ‘lles’, ond yr un peth ydyn nhw’n y bôn. Gall effeithio ar y ffordd fydden ni’n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn a dylanwadu ar y ffordd fydden ni’n delio â straen, yn uniaethu ag eraill ac yn gwneud penderfyniadau.

Mae bod yn feddyliol iach hefyd yn ymwneud â’r cryfder i oresgyn yr anawsterau a’r heriau a fydd yn ein wynebu ni i gyd ar adegau’n ystod ein bywydau – i fod â hyder ac hunan-barch ac i allu credu’n ein hunain.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search