Iolo Morganwg | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Iolo Morganwg ![]() |
Ganwyd | 10 Mawrth 1747 ![]() Llancarfan ![]() |
Bu farw | 18 Rhagfyr 1826 ![]() Trefflemin ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd, gwerthwr hen greiriau, ysgrifennwr, hynafiaethydd, ffermwr, counterfeiter ![]() |
Plant | Taliesin Williams, Margaret Williams ![]() |
Roedd Edward Williams (10 Mawrth 1747 – 18 Rhagfyr 1826), sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Iolo Morganwg, yn fardd a hynafiaethydd a aned ym mhentref bychan Pennon, plwyf Llancarfan, ym Morgannwg, de Cymru. Fel sylfaenydd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, ef sy'n gyfrifol am wreiddiau prif seremonïau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol. Dim ond yn yr 20g y sylweddolwyd ei fod yn un o'r ffugwyr llenyddol mwyaf cynhyrchiol a llwyddiannus erioed. Nid oes llawer o dystiolaeth ar gael i ddweud ei bod wedi ffugio ei waith ar wyddor Y Coelbren.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search