Ipswich Town F.C.

Ipswich Town
Enw llawn Ipswich Town Football Club
(Clwb Pêl-droed Tref Ipswich)
Llysenw(au) The Tractor Boys, Town, The Blues
Sefydlwyd 1878
Maes Portman Road (sy'n dal 29,673)
Cadeirydd Mike O'Leary
Rheolwr Baner Gogledd Iwerddon Kieran McKenna
Cynghrair Uwch Gynghrair Lloegr
2023–2024 Ail (Y Bencampwriaeth)
Gwefan Gwefan y clwb

Clwb pêl-droed proffesiynol o Loegr yw Ipswich Town Football Club (a elwir hefyd yn 'Ipswich', 'The Tractor Boys', 'Town' a 'The Blues'). Lleolir y clwb yn Ipswich, Suffolk. Maent yn chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr yn sgil gorffen yn ail yn y Bencampwriaeth, ail haen system gynghrair pêl-droed Lloegr, yn nhymor 2023–4.

Sefydlwyd y clwb ym 1878 ond ni wnaethant droi’n broffesiynol tan 1936. Fe’i hetholwyd i ymuno â’r Gynghrair Bêl-droed ym 1938. Maent yn chwarae eu gemau cartref yn Portman Road yn Ipswich. Ipswich yw'r unig glwb pêl-droed cwbl broffesiynol yn Suffolk ac mae ganddyn nhw berthynas gystadleuol hirsefydlog a ffyrnig â Norwich City yn Norfolk. Mae'r ddau dîm wedi cystadlu yng ngêm darbi East Anglia 148 o weithiau ers 1902.[1] Roedd Ipswich yn un o aelodau cychwynnol Uwch Gynghrair Lloegr yn 1992. Lliwiau cartref traddodiadol y clwb yw crysau glas gyda siorts gwyn a sanau glas.

Mae Ipswich wedi ennill teitl cynghrair Lloegr unwaith, yn eu tymor cyntaf yn yr adran uchaf yn 1961–62, ac wedi gorffen yn ail ddwywaith, yn 1980–81 a 1981–82. Fe wnaethant ennill Cwpan FA ym 1977–78, a Chwpan UEFA ym 1980–81. Maent wedi cystadlu ym mhob un o’r tair cystadleuaeth clwb Ewropeaidd, ac nid ydynt erioed wedi colli gartref mewn cystadleuaeth Ewropeaidd, gan drechu Barcelona, Real Madrid, A.C. Milan, Inter Milan, a Lazio, ​​ymhlith eraill.[2]

  1. "East Anglian Derby". Ipswich Town F.C. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mai 2008. Cyrchwyd 16 Mawrth 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Alexander, David (1 November 2002). "Bent relives Ipswich glory days to give Royle perfect start". The Guardian. London. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Rhagfyr 2013. Cyrchwyd 28 Ebrill 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search