Enghraifft o'r canlynol | iaith naturiol, iaith fyw |
---|---|
Math | Ieithoedd Japanaidd |
Enw brodorol | 日本語 |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-1 | ja |
cod ISO 639-2 | jpn |
cod ISO 639-3 | jpn |
Gwladwriaeth | Japan, Unol Daleithiau America, Taiwan, Gogledd Corea, De Corea, y Philipinau, Periw, Awstralia |
System ysgrifennu | Kanji, Kana, Katakana, Hiragana |
Corff rheoleiddio | Kokugo Shingikai, Council for Cultural Affairs, Ministry of Education, Culture, Sports, Science and Technology, Asiantaeth Materion Diwylliannol Siapan |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae heddiw'n boblogaidd i gwmnïau ddefnyddio katakana i bwysleisio enw'r brand ac i greu delwedd mwy cyfoes yn hytrach na defnyddio'r kanji neu hiragana mwy traddodiadol]] Japaneg (日本語 Nihongo yn Rōmaji, Siapaneg, Siapaneeg) yw iaith swyddogol Japan gyda dros 130 miliwn o siaradwyr. Siaredir Japaneg ym Mrasil, Taiwan, Ynysoedd Marshall, Palaw, Gwam, Awstralia a'r Unol Daleithiau hefyd.
Mae dadlau ymysg ieithyddion ynglŷn â gwreiddiau'r iaith. Mae rhai yn dadlau'n gryf fod yr iaith yn perthyn i'r teulu Altaig (Altaic), sydd hefyd yn cynnwys Tyrceg a'i changhennau, Mongoleg a Choreeg. Cred ieithyddion eraill fod Japaneg yn rhannu nodweddion â llawer o ieithoedd Awstralasia, tra bod eraill yn credu ei bod hi'n iaith gyfan gwbl ar wahân.
Er bod anghytundeb ynglŷn â gwreiddiau'r iaith, ni ellir dadlau fod dylanwad cryf wedi bod gan y Tsieineeg ar yr iaith, gyda rhai yn dadlau bod hanner geirfa'r Japaneg yn deillio o'r Tsieineeg. Mae Japaneg ddiweddar yn defnyddio cyfuniad o dair system ysgrifennu:
Mae'r wyddor Ladin, Rōmaji, yn cael ei defnyddio'n aml mewn Japaneg ddiweddar, yn enwedig ar gyfer enwau cwmnïau, hysbysebu ac wrth fewnbynnu Japaneg i mewn i gyfrifiadur.
Yn draddodiadol, caiff yr iaith ei hysgrifennu mewn ffurf fertigol a elwir yn tategaki (縦書き) sydd yn golygu darllen fesul colofn (yn hytrach na fesul rhes), gan ddechrau ar frig y golofn ar y dde a darllen i lawr. Wedi cyrraedd gwaelod y golofn, symudir ymlaen i'r golofn nesaf sydd i'r chwith. Yn fwy diweddar defnyddir y ffurf llorweddol a elwir yn okogaki (横書き), ffurf sydd yn fwy cyffredin i Orllewinwyr sydd yn golygu darllen mewn rhesi o'r chwith i'r dde.
Ran amlaf, defnyddir y system rifol Indo-Arabaidd gyfarwydd, yn enwedig os yw ffurf y testun yn llorweddol.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search