Karachi

Karachi
Mathmetropolis, endid tiriogaethol gweinyddol, tref/dinas, dinas fawr, mega-ddinas, y ddinas fwyaf, prifddinas y dalaith Edit this on Wikidata
PrifddinasGulshan Town Edit this on Wikidata
Poblogaeth14,910,352 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1729 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMurtaza Wahab Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+05:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Wrdw Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSindh Edit this on Wikidata
GwladBaner Pacistan Pacistan
Arwynebedd3,527 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr8 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau24.86°N 67.01°E Edit this on Wikidata
Cod post74000–75900 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholKarachi Metropolitan Corporation Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Karachi Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMurtaza Wahab Edit this on Wikidata
Map

Karachi ("Cymorth – Sain" ynganiad ) yw'r ddinas fwyaf ym Mhacistan ac un o'r deg o ddinasoedd mwyaf poblog, gyda dros 14,910,352 (2017)[1] o bobl yn byw ynddi.[2][3] Mae wedi'i lleoli ar Fôr Arabia fymryn i'r gogledd o'r man lle mae Afon Indus yn rhedeg i'r môr ar ddiwedd ei thaith hir o fynyddoedd y Karakoram. Karachi yw prif borthladd Pacistan. Karachi yw dinas fwyaf cosmopolitaidd Pacistan, yn amrywiol o ran iaith, yn ethnig ac yn grefyddol,[4] yn ogystal â bod yn un o ddinasoedd mwyaf seciwlar a rhyddfrydol Pacistan.[5][6][7] Y ddinas yw prif ganolfan ddiwydiannol ac ariannol Pacistan, gydag amcangyfrif o CMC o $ 164 biliwn (PPP) yn 2019.[8]

Yn ddinas fodern, datblygodd yn gyflym fel porthladd yn ystod y 19g. Yn 1947 daeth yn brifddinas y Bacistan newydd a llifodd nifer fawr o ffoaduriaid i mewn i ddinas oedd eisoes yn llawn i'r ymylon. Gwellhaodd y sefyllfa i raddau pan symudwyd y brifddinas i Islamabad yn 1959 a chychwynwyd ar raglen o adeiladu bwrdeistrefi o gwmpas y ddinas yn y 1960au.

Marchnad yn y ddinas

Galwyd hi'n "Ddinas y Goleuadau" yn y 1960au a'r 1970au oherwydd ei bywyd nos bywiog.[9] Yn yr 1980au, fodd bynnag, roedd Karachi;n llawn o wrthdaro ethnig, sectyddol a gwleidyddol, gyda dyfodiad arfau o bob lliw a maint, yn ystod y Rhyfel Sofietaidd-Afghanistan.[10] Erbyn y 2020au roedd Karachi wedi dod yn gartref i fwy na dwy filiwn o fewnfudwyr Bangladeshaidd, miliwn o ffoaduriaid o Affganistan, a hyd at 400,000 o Rohingyas o Myanmar.[11][12]

Karachi yw prif borthladd filwrol y wlad. Mae'r rhan fwyaf o gynnyrch taleithiau amaethyddol Sind a Punjab yn pasio drwy'r borth. Ymhlith y prif ddiwylliannau ceir: brethyn, cemegau, a serameg.

Un o'r ychydig atyniadau pensaernïol amlwg yn y ddinas yw Mazar-e-Quaid, beddrod Jinnah, sefydlwr Pacistan.

  1. "Pakistan's 10 most populous cities revealed". 28 Awst 2017. Cyrchwyd 22 Ionawr 2021.
  2. "Maint poblogaeth a thwf dinasoedd mawr" (PDF). Pakistan Bureau of Statistics. 1998.
  3. Amer, Khawaja (10 Mehefin 2013). "Population explosion: Put an embargo on industrialisation in Karachi". The Express Tribune. Cyrchwyd 16 Mehefin 2017.
  4. Inskeep, Steve (2012). Instant City: Life and Death in Karachi. Penguin Publishing Group. t. 284. ISBN 978-0-14-312216-6. Cyrchwyd 30 Hydref 2016.
  5. Paracha, Nadeem F. "Visual Karachi: From Paris of Asia, to City of Lights, to Hell on Earth". Dawn. Cyrchwyd 8 Mawrth 2016.
  6. Abbas, Qaswar. "Karachi: World's most dangerous city". India Today. Cyrchwyd 24 Hydref 2016. Karachi, Pakistan's largest city, with a population of approx. 3.0 crore (Mumbai has 2 crore people) is the country's most educated, liberal and secular metropolis.
  7. "Pakistani journalists face threats from Islamists". Deutsche Welle. Cyrchwyd 24 Hydref 2016. This all happened in the heart of KarachiNodyn:Snda relatively liberal city with a population of more than 15 million.
  8. "PIGJE". pigje.com.pk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Medi 2014. Cyrchwyd 25 Chwefror 2016.
  9. Gayer, Laurent (2014). Karachi: Ordered Disorder and the Struggle for the City. Oxford University Press. t. 18. ISBN 978-0-19-023806-3.
  10. "2011 brings a violent and bloody year of ethnic conflict to Karachi, Pakistan". Public Radio International. 19 Ionawr 2012. Cyrchwyd 16 Hydref 2016.
  11. "Falling back". Daily Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Awst 2011. Cyrchwyd 24 Awst 2010.
  12. "Chronology for Biharis in Bangladesh". Center for International Development and Conflict Management, University of Maryland. 10 Ionawr 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mehefin 2010. Cyrchwyd 6 Mai 2010.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search