Karl Marx

Karl Marx
FfugenwGlückskind Edit this on Wikidata
GanwydKarl Heinrich Marx Edit this on Wikidata
5 Mai 1818, 5 Mai 1818 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Trier Edit this on Wikidata
Bu farw14 Mawrth 1883, 14 Mawrth 1883 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Man preswylLlundain, Trier, Berlin, Paris, The Swan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prwsia, di-wlad Edit this on Wikidata
AddysgDoethur mewn Athrawiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Bruno Bauer Edit this on Wikidata
Galwedigaetheconomegydd, newyddiadurwr, hanesydd, athronydd, cymdeithasegydd, chwyldroadwr, bardd, gwleidydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Neue Rheinische Zeitung
  • Rheinische Zeitung Edit this on Wikidata
Adnabyddus amEconomic and Philosophic Manuscripts of 1844, Das Kapital, The German Ideology, Y Maniffesto Comiwnyddol Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadGeorg Hegel, Max Stirner, Ludwig Feuerbach, The Essence of Christianity Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolCommunist League Edit this on Wikidata
TadHeinrich Marx Edit this on Wikidata
MamHenriette Presburg Edit this on Wikidata
PriodJenny von Westphalen Edit this on Wikidata
PlantEleanor Marx, Jenny Longuet, Laura Marx, Edgar Marx, Frederick Demuth, Heinrich Edward Guy Marx, Jenny Evelin Francis Marx Edit this on Wikidata
PerthnasauLudwig von Westphalen Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Frenhinol Celf (FRSA) Edit this on Wikidata
llofnod

Athronydd gwleidyddol, economegydd, a damcaniaethwr cymdeithasol dylanwadol Almaenig o dras Iddewig oedd Karl Heinrich Marx (5 Mai 181814 Mawrth 1883).[1] Er iddo drafod nifer o bynciau yn ei yrfa fel newyddiadurwr ac athronydd, mae mwyaf enwog am ei ddadansoddiad o hanes yn nhermau gwrthdaro dosbarth. Crynhoir ei athroniaeth gan yr honiad bod diddordeb cyfalafwyr a gweithwyr cyflogedig yn gwbwl groes i'w gilydd. Ei weithiau mwyaf adnabyddus yw'r pamffled 1848 Manifest der Kommunistischen Partei (Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol) a Das Kapital (casgliad o bedair cyfrol; 1867–1883, sy'n dadansoddi cyfalafiaeth y 19g). Dylanwadodd Marx yn aruthrol ar hanes o ran economeg a gwleidyddiaeth. Mae ei enw wedi cael ei ddefnyddio fel ansoddair, enw, ac fel ysgol o theori gymdeithasol. Fe'i ystyrir yn destun sylfaenol Comiwnyddiaeth a Marcsiaeth. Cydweithiodd Marx ar ddarnau o'i waith gyda'r diwydiannwr Friedrich Engels, Almaenwr arall a gefnogodd Marx yn ariannol ac a helpodd olygu Das Kapital. Gydag ef ysgrifennodd Marx Y Maniffesto Comiwnyddol[2] yn 1848, un o'r llawysgrifau gwleidyddol mwyaf dylanwadol erioed.

Ar ôl darllen am gyfraith Hywel Dda a'r hawliau a roddodd i fenywod, nododd Marx am y Cymry: "Tipyn o fechgyn, y Celtiaid hyn. Ond dilechdidwyr o'u genedigaeth, gan gyfansoddi popeth mewn triadau."[3]

Ganed Marx yn Trier, yr Almaen, ac astudiodd y gyfraith ac athroniaeth ym mhrifysgolion Bonn a Berlin. Priododd y beirniad theatr o'r Almaen a'r gweithredwr gwleidyddol Jenny von Westphalen ym 1843. Oherwydd ei gyhoeddiadau gwleidyddol, daeth Marx yn ddi-wladwriaeth a bu’n byw’n alltud gyda’i wraig a’i blant yn Llundain am ddegawdau, lle parhaodd i ddatblygu ei feddwl ar y cyd â’r meddyliwr Almaenig Friedrich Engels gan gyhoeddi ei ysgrifau.

Mae damcaniaethau beirniadol Marx am gymdeithas, economeg, a gwleidyddiaeth yn cael eu hadnabod ar y cyd fel 'Marcsiaeth', sy'n dal bod cymdeithasau dynol yn datblygu trwy wrthdaro dosbarth. Yn y dull cyfalafol o gynhyrchu, mae hyn yn amlygu ei hun yn y gwrthdaro rhwng y dosbarthiadau rheoli (a elwir y <i>bourgeoisie</i>) sy'n rheoli'r dull cynhyrchu, a'r dosbarthiadau gweithiol (a elwir y proletariat) sy'n gweithredu'r dulliau hyn trwy werthu eu hamser am gyflog. Gan ddefnyddio dull beirniadol a elwir yn fateroliaeth hanesyddol, rhagwelodd Marx fod cyfalafiaeth yn cynhyrchu tensiynau mewnol fel systemau economaidd-gymdeithasol blaenorol ac y byddai'r rheini'n arwain at ei hunan-ddinistrio a'i disodli gan system newydd a elwir yn ddull cynhyrchu sosialaidd. I Marx, byddai gwrthdaro dosbarth o dan gyfalafiaeth—yn rhannol oherwydd ei ansefydlogrwydd a’i natur dueddol o argyfwng —yn peri i’r dosbarth gweithiol ddatblygu ymwybyddiaeth dosbarth, gan arwain at eu goresgyniad o rym gwleidyddol ac yn y pen draw sefydlu cymdeithas gomiwnyddol ddi-ddosbarth sef cymdeithas o gynhyrchwyr rhydd.[4] Pwysodd Marx yn frwd am ei weithredu, gan ddadlau y dylai'r dosbarth gweithiol gyflawni camau chwyldroadol proletarian trefnus i chwalu cyfalafiaeth a sicrhau rhyddfreinio economaidd-gymdeithasol.

Disgrifir Marx fel un o'r ffigurau mwyaf dylanwadol yn hanes pobl, ac mae ei waith wedi cael ei ganmol a'i feirniadu. Gosododd ei waith mewn economeg y sail i rai damcaniaethau cyfredol am lafur a'i berthynas â chyfalaf.[5][6][7] Mae llawer o ddeallusion, undebau llafur, artistiaid, a phleidiau gwleidyddol ledled y byd wedi cael eu dylanwadu gan waith Marx, gyda llawer yn addasu ei syniadau. Cyfeirir at Marx yn nodweddiadol fel un o brif benseiri gwyddor gymdeithasol fodern.[8][9]

  1. Friedrich Engels; Karl Marx (1973). Karl Marx on Society and Social Change: With Selections by Friedrich Engels (yn Saesneg). Gwasg Prifysgol Chicago. t. ix. ISBN 9780226509181.
  2. Maniffesto’r Blaid Gomiwnyddol. Karl Marx a Friederich Engels; 1848. Llyfr llafar
  3. Karl Marx, Llythr at Friederich Engels 11 Mai 1870[dolen marw]
  4. Marx, Karl. Critique of the Gotha Program.
  5. Unger, Roberto Mangabeira (2007). Free Trade Reimagined: The World Division of Labor and the Method of Economics. Princeton: Princeton University Press.
  6. Hicks, John (May 1974). "Capital Controversies: Ancient and Modern". The American Economic Review 64: 307. https://archive.org/details/sim_american-economic-review_1974-05_64_2/page/307. "The greatest economists, Smith or Marx or Keynes, have changed the course of history ..."
  7. Joseph Schumpeter Ten Great Economists: From Marx to Keynes.
  8. Little, Daniel. "Marxism and Method". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 December 2017. Cyrchwyd 10 December 2017.
  9. Kim, Sung Ho (2017). "Max Weber". In Zalta, Edward N. (gol.). Stanford Encyclopaedia of Philosophy. Metaphysics Research Lab, Stanford University. Max Weber is known as a principal architect of modern social science along with Karl Marx and Emil Durkheim. |access-date= requires |url= (help)

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search