Enghraifft o'r canlynol | university network |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2002 |
Pencadlys | Leuven |
Rhanbarth | Leuven |
Gwefan | http://www.leru.org |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae League of European Research Universities (LERU) yn rhwydwaith o brifysgolion Ewropeaidd sy'n ymroddedig i ymchwil flaengar.
Yn 2002, sefydlodd 12 prifysgol y gymdeithas yn Leuven, Gwlad Belg. Ers 2010 mae 21 o aelodau. Dim ond trwy wahoddiad gan LERU y gellir ymaelodi.
Ym mis Ionawr 2017, ymunodd Coleg y Drindod Dulyn a Phrifysgol Copenhagen â LERU. Heddiw mae ganddi 23 o aelodau.[1] NId oes un o brifysgolion Cymru yn aelod. Mae nifer o'r aelodau hefyd yn aelodau o gymdeithas brifsgolion Ewropeaidd arall tebyg, Grŵp Coimbra.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search