Lithwaneg

Iaith Faltig Ddwyreiniol yw'r Lithwaneg a siaredir yn bennaf yn Lithwania gan y Lithwaniaid. Mae ganddi dros 3 miliwn o siaradwyr brodorol, 2.8 miliwn ohonynt yn Lithwania.[1]

Hi yw'r iaith fwyaf "hynafaidd" o'r holl ieithoedd Indo-Ewropeaidd byw, hynny yw hon yw'r iaith sydd wedi newid lleiaf yn ystod ei hanes. O ganlyniad mae gan y Lithwaneg nifer o nodweddion yr iaith Broto-Indo-Ewropeg.[2]

Mae Lithwaneg yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.

  1. (Saesneg) Lithuanian. Ethnologue (2012). Adalwyd ar 27 Awst 2014.
  2. (Saesneg) Lithuanian language. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Awst 2014.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search