Llain Gaza

Llain Gaza
Mathtiriogaeth dan feddiant, allglofan Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlDinas Gaza Edit this on Wikidata
PrifddinasDinas Gaza Edit this on Wikidata
Poblogaeth2,098,389 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1949 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethYahya Sinwar Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolTiriogaethau Palesteinaidd Edit this on Wikidata
GwladGwladwriaeth Palesteina, Y Weriniaeth Arabaidd Unedig, Israeli-occupied territories, Awdurdod Cenedlaethol Palesteina, occupation of the Gaza Strip by the United Arab Republic Edit this on Wikidata
Arwynebedd365 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaYr Aifft, Israel Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.45°N 34.4°E Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethYahya Sinwar Edit this on Wikidata
Map
ArianSicl newydd Israel Edit this on Wikidata
Llain Gaza
Canol Dinas Gaza
Rhan o'r "Ffens Ddiogelwch" Israelaidd sy'n rhedeg ar hyd y ffin rhwng Israel a Llain Gaza

Llain o dir ar arfordir y Môr Canoldir yw Llain Gaza (Arabeg: قطاع غزة‎ Qiṭāʿ Ġazzah; Hebraeg:רצועת עזה‎ Retzu'at 'Azza), rhwng yr Aifft i'r de-orllewin ac Israel i'r gogledd a'r dwyrain. Mae'n un o'r Tiriogaethau Palesteinaidd sy'n destun Gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd. O ran maint, mae cryn dipyn yn llai na Bwrdeisdref Sirol Conwy: rhwng 6 a 12 kilomedr o led a 25 kilomedr o hyd. Mae ganddo arwynebedd o 360 km sgwar ac mae 1.4 miliwn o Balesteiniaid yn byw o fewn ffiniau'r diriogaeth hon. Yn hanesyddol mae gan y llain gysylltiadau cryf â'r Aifft.

Daw ei enw o'r ddinas fwyaf yno, sef Gaza. Rheolir y llain gan lywodraeth Hamas ar hyn o bryd. Ffoaduriaid Palesteinaidd yw'r mwyafrif llethol o ddinesyddion Gaza. Mae rhai yn ei disgrifio fel "carchar rhyfel mwyaf y byd" am fod Israel yn cadw'r bobl dan warchae economaidd a milwrol gyda "ffens ddiogelwch" anferth yn gwahanu'r diriogaeth ac Israel, llynges Israel yn rhwystro mynediad o'r môr, a dim cysylltiad trwy'r awyr (dinistriwyd Maes Awyr Yasser Arafat ganddynt). I'r de, ar y ffin â'r Aifft, dim ond un croesfa sydd ar gael, ger Rafah, ac mae mynd i mewn ac allan yn anodd yno hefyd.

Yn Rhagfyr 2008, cafwyd ymosodiad gan Lu Awyr Israel pan laddwyd 1,417 o Balisteiniaid ac 13 o Israeliaid. Ar y 3ydd o Ionawr 2009 symudwyd tanciau a milwyr Israel i mewn i'r Llain a gwelwyd llawer o fomio o awyrennau a hofrenyddion Israel. Cafwyd protestiadau yn erbyn Israel led-led Cymru gan gynnwys Caerdydd, Abertawe a Chaernarfon. Ym Mai 2010 ymosododd milwyr Israel ar lynges ddyngarol yn cludo nawdd i Lain Gaza. Ail-gododd y brwydro pan ymosododd byddin Israel mewn ymgyrch a alwyd ganddynt yn Ymgyrch Colofn o Niwl pan laddwyd rhwng 158 a 177 o Balisteiniaid a 6 Israeliad.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search