Llanbadarn Fawr

Llanbadarn Fawr
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaSulien Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,380, 2,489 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd313.9 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.408°N 4.06°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000372 Edit this on Wikidata
Cod OSSN599808 Edit this on Wikidata
Cod postSY23 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map
Am y gymuned ym Mhowys, gweler Llanbadarn Fawr, Powys.

Pentref ar gyrion tref Aberystwyth yw Llanbadarn Fawr.

Mae'r eglwys, sydd wedi ei chysegru i Sant Padarn, yn un nodedig. Roedd y clas yma yn ystod y Canol Oesoedd cynnar yn enwog am ei ddysg dan Sulien (c. 1010 - 1091) a'i fab Rhygyfarch ap Sulien. Roedd y clas yn parhau mewn bodolaeth pan ymwelodd Gerallt Gymro a Llanbadarn ar ei daith trwy Gymru yn 1188, er ei fod yn dirywio erbyn hynny. Ail-adeiladwyd yr eglwys yn 1257 yn dilyn tân, ac mae cryn dipyn o ail-adeiladu wedi bod wedyn. Bu Dafydd ap Gwilym yn byw yn y pentref ac mae yna gerdd amdano'i hun yn eglwys Llanbadarn, yn canolbwyntio ar y merched yn y gynulleidfa yn hytrach na'r gwasanaeth. Gwelodd y pentref ddatblygu mawr yn ystod y 90au, gyda archfarchnad Safeway (nawr Morrisons) a siopau eraill yn cael ei hadeiladu ar dir fferm Parc yr Afon.

Un rhan bychan o Lanbadarn Fawr yw Pwllhobi sef y llecyn o gwmpas y garej a argraffdy Cambrian Printers.

Mae gan Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth gampws yma, yn cynnwys yr adran gwyddor gwybodaeth (Coleg Llyfrgellwyr Cymru gynt) a'r Sefydliad Astudiaethau Gwledig (Coleg Amaethyddiaeth Cymru gynt). Mae dwy dafarn yn y pentref, y Llew Du a'r Gogerddan Arms. Yma hefyd y lleolir caeau chwaraeon Prifysgol Aberystwyth (Prifysgol Cymru, Aberystwyth tan 2007) ar gaeau Blaendolau.

Mae Llanbadarn Fawr hefyd yn gweithredu fel cyngor cymuned o'r un enw, sydd arwahân i Gyngor Tref Aberystwyth.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search