Llanfair Caereinion

Llanfair Caereinion
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,810, 1,688 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • c. 1885 (tua) Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd6,253.82 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.6488°N 3.3243°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000299 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ105065 Edit this on Wikidata
Cod postSY21 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auSteve Witherden (Llafur)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Pentref gwledig a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llanfair Caereinion.[1] Saif ar groesfan bwysig ar lôn yr A458, 18 km (11 milltir) i'r gogledd o'r Drenewydd. Mae'n gorwedd yn Nyffryn Banwy a rhed afon Banwy trwy'r pentref. Mae ganddo boblogaeth o 1,810 (2011).[2]

Yn yr Oesoedd Canol Llanfair Caereinion oedd canolfan bwysicaf cantref Caereinion. Yn ôl y traddodiad, sefydlwyd Caereinion gan Einion Yrth, un o feibion Cunedda, ganol y 5g. Ceir hen fryngaer o'r enw Caereinion tua milltir o'r pentref. Roedd eglwys y pentref dan awdurdod Meifod a safai ym Mathrafal, prif lys brenhinoedd Teyrnas Powys, tua tair milltir a hanner i'r gogledd.

Yn fersiwn John Jones o Gellilyfdy o'r chwedl Hanes Taliesin, mae Gwion Bach, ymgnawdoliad cyntaf Taliesin Ben Beirdd, yn "fab gwreang o Lan Uair yn Kaer Einion ym Powys".[3]

Y pentref oddeutu 1885

Ym 1837 cafwyd terfysg fawr yn y plwyf pan ymosododd tlodion yr ardal ar Swyddog y Tlodion plwyf Llanfair Caereinion oherwydd cyfyngiadau Deddf Newydd y Tlodion a bu rhaid galw'r milisia lleol i mewn i adfer trefn.[4]

Plu'r Gweunydd yw papur bro Llanfair Caereinion a'r cylch.

Lleolir terminws gorllewinol Rheilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion yn y pentref, sy'n denu twristiaid o ganlyniad.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[5] ac yn Senedd y DU gan Steve Witherden (Llafur).[6]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. "Gwybodaeth Fanwl am y Cyfrifiad". Cyngor Sir Powys. Cyrchwyd 15/11/2017. Check date values in: |access-date= (help)
  3. Patrick K. Ford (gol.), Ystorya Taliesin (Caerdydd, 1992).
  4. R. T. Jenkins, Hanes Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Caerdydd, 1933), t. 130.
  5. Gwefan Senedd Cymru
  6. Gwefan Senedd y DU

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search