Llanilltud Fawr

Llanilltud Fawr
Mathcymuned, tref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4062°N 3.475°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000918 Edit this on Wikidata
Cod OSSS975685 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJane Hutt (Llafur)
AS/auKanishka Narayan (Llafur)
Map

Tref a chymuned ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg, Cymru yw Llanilltud Fawr[1] (Saesneg: Llantwit Major).[2]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jane Hutt (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Kanishka Narayan (Llafur).[4]

Ceir olion hen fila Rhufeinig tua 1 filltir o'r dref.

Mae hen eglwys Sant Illtud yn enwog iawn. Mae'n sefyll ar safle'r hen fynachlog (clas) a sefydlwyd yno gan y sant yn y 6g. Daeth yn ganolfan dysg bwysig a dylanwadol yn yr Oesoedd Canol cynnar. Roedd yn mwynhau nawdd brenhinoedd fel Hywel ap Rhys, brenin Glywysing (m. 886), a gladdwyd yno. Cafodd mynachlog Llanilltud ei hanreithio gan y Llychlynwyr yn 988. Daeth yr eglwys yn eiddo Abaty Tewkesbury tua 1130 ar ôl i'r Normaniaid orsegyn teyrnas Morgannwg.

Mae'n bosibl fod y bardd Lewys Morgannwg (fl. 1520-1565) wedi byw yn Llanilltud Fawr, er ei fod yn frodor o Dir Iarll. Canodd gerdd i Illtud Sant sydd ar glawr heddiw.

Yn y flwyddyn 1100 yr ymddengys y gair yn gyntaf yn ysgrifenedig, "Llan Iltut", sy'n dangos yn amlwg mai "Illtud" yw tarddiad y gair, nid "twit" (Llantwit Major ydy'r gair yn Saesneg).

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 18 Chwefror 2022
  3. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-12-22.
  4. Gwefan Senedd y DU

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search