Llanrwst

Llanrwst
Mathtref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlanrwst Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd5.24 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.1371°N 3.7938°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH800615 Edit this on Wikidata
Cod postLL26 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/auClaire Hughes (Llafur)
Map
Statws treftadaethHenebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion

Tref fechan a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llanrwst.[1][2] Saif ar lan ddwyreiniol Afon Conwy, tri chwarter y ffordd i fyny Dyffryn Conwy ar lôn yr A470. Mae Caerdydd 188.8 km i ffwrdd o Lanrwst ac mae Llundain yn 308.8 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 25 km i ffwrdd.

Mae Rheilffordd Dyffryn Conwy yn cysylltu'r dref â Llandudno yn y gogledd a Blaenau Ffestiniog yn y de. Tyfodd y dref o gwmpas y diwydiant gwlân ac roedd y dref yn adnabyddus am ei brethyn. Roedd gwneud telynnau yn ddiwydiant poblogaidd yno hefyd ac roedd galw mawr am gynnyrch gwneuthurwyr telynnau Llanrwst ledled Cymru. Erbyn heddiw twristiaeth yw'r prif ddiwydiant ynghyd ag amaethyddiaeth. Lleolir Gwasg Carreg Gwalch, un o gyhoeddwyr llai mwyaf llwyddiannus Cymru, yn y dref.

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search