Llenyddiaeth Saesneg Canol

Y corff o lenyddiaeth a ysgrifennwyd yn Saesneg Canol, y ffurf ar yr iaith Saesneg a fodolai yn y cyfnod o'r 12g i'r 15g, yw llenyddiaeth Saesneg Canol. Cyfnod cymharol dawel yn hanes llenyddiaeth Saesneg oedd y 12g a'r 13g, a dim ond ychydig o lenyddiaeth Saesneg Canol sy'n goroesi o ganlyniad i oruchafiaeth y Normaniaid a statws Hen Ffrangeg, neu Eingl-Normaneg, fel iaith o fri. Fodd bynnag, llewyrchodd ysgrifennu yn yr amryw dafodieithoedd Saesneg yn y 14g. Y llenor blaenaf o'r oes hon yw Geoffrey Chaucer (tua 1343–1400), yr hwn sy'n un o feirdd gwychaf barddoniaeth Saesneg Lloegr a'i gampwaith The Canterbury Tales yn brif waith y cyfnod ac yn un o'r gweithiau pwysicaf yn holl lenyddiaeth yr iaith Saesneg.[1] Cyfansoddai Chaucer ei farddoniaeth yn nhafodiaith Dwyrain Canolbarth Lloegr, a dderbyniwyd yn raddol yn ffurf safonol yr iaith lenyddol, er i'r gwahaniaethau hynod o ran orgraff ac ynganiad Saesneg barhau. Dygwyd arddull lenyddol newydd i'r amlwg gan waith Chaucer a John Wycliffe (tua 1328–1384), y dyn cyntaf i gyfieithu'r Beibl i'r Saesneg. Ymhlith prif lenorion eraill y 14g mae William Langland (tua 1332–tua 1386), awdur Piers Plowman; yr un a elwir "bardd Gawain", a briodolir iddo'r cerddi Perle, Patience, a Cleanness yn ogystal â'r campwaith Sir Gawain and the Green Knight; a John Gower (tua 1330–1408), a ysgrifennai yn Saesneg, Lladin, a Ffrangeg. Tua therfyn yr Oesoedd Canol yn Lloegr, cychwynnodd gwedd newydd ar lenyddiaeth o ganlyniad i ddyfeisio'r wasg argraffu. Un o'r llyfrau a gyhoeddwyd gan yr argraffwr arloesol o Sais, William Caxton (tua 1422–tua 1491), oedd y Le Morte d'Arthur, un o'r esiamplau gwychaf o'r rhamant sifalrig, gan Syr Thomas Malory (tua 1405–1471).

  1. Carlson, David. (2004). "The Chronology of Lydgate's Chaucer References". The Chaucer Review 38 (3): 246–254. doi:10.1353/cr.2004.0003. https://archive.org/details/sim_chaucer-review_2004_38_3/page/246.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search