Llifogydd

Stryd Fawr y Bermo; 1 Mehefin 1959; Geoff Charles.
Llifogydd ger Key West, Florida, Unol Daleithiau, Hydref 2005

Ceir llifogydd neu llif pan mae dŵr yn gorlifo'r tir. Gellir defnyddio "llif" hefyd am symudiad dŵr neu hylif arall, er enghraiift llif afon, tra mae "llifogydd" yn cyfeirio'n benodol ar orlifo.

Gellir cael llifogydd pan mae maint y dŵr mewn afon neu lyn yn mynd yn ormod i'w gynnwys ynddo, ac yn gorlifo'r glannau. Mae hyn yn digwydd fel arfer o ganlyniad i law trwm. Mewn aber, gall cyfuniad o wynt cryf a llanw uchel achosi llifogydd. Gall llifogydd hefyd ddilyn digwyddiad arall, megis argae yn torri neu ddaeargryn.

Ymhlith effeithiau llifogydd, ceir boddi pobl ac anifeiliaid, difrod i eiddo, halogi cyflenwadau dŵr gan arwain at brinder o ddŵr yfed a difetha cnydau, gan arwain at brinder bwyd.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search