Llinell

Llinell
Enghraifft o'r canlynolcysyniad geometregol Edit this on Wikidata
Mathalgebraic curve, member of a group, locws, llinell, generalised circle, geometric primitive Edit this on Wikidata
Rhan oplân geometraidd Edit this on Wikidata
Yn cynnwyspwynt, orientation, abstract reference point, ray Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mae gan y llinellau coch a glas yn y graff hwn yr un llethr (graddiant); mae gan y llinellau coch a gwyrdd yr un rhyngdoriad-y (y-intercept) h.y. mae nhw'n croesi'r echelin-y yn yr un lle.
Segment llinell.

Mewn mathemateg, cyflwynwyd y syniad o linell neu linell syth gan fathemategwyr ganrifoedd yn ôl i gynrychioli gwrthrychau syth heb fawr o drwch a heb fod yn llinellau crwm. Cynrychiolir gwrthrychau o'r fath gan linell, a wnaed fel arfer, gyda chymorth pren syth, pwrpasol (e.e. y pren mesur). Mae 'llinell' yn enw benywaidd; y lluosog yw 'llinellau'.

Mewn mathemateg fodern, mae'r cysyniad o linell wedi'i chysylltu'n agos iawn â geometreg. Er enghraifft, mewn geometreg ddadansoddol, mae llinell yn y plân yn aml yn cael ei diffinio fel y set o bwyntiau y mae eu cyfesurynnau'n bodloni hafaliad llinol penodol, ond mewn cyd-destun mwy haniaethol, megis 'geometreg amlder' (incidence geometry), gall llinell fod yn wrthrych annibynnol, ar wahân i'r set o bwyntiau sy'n gorwedd arni.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search