![]() | |
Math | ffordd ![]() |
---|---|
Cysylltir gyda | Llwybr Clawdd Offa, Llwybr Arfordir Cymru ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych ![]() |
Gwlad | ![]() |
Mae Llwybr y Gogledd yn lwybr pellter hir o tua 60 milltir sy'n rhedeg rhwng Prestatyn yn y dwyrain a Bangor yn y gorllewin. Mae'n cyd-fynd yn rhannol a Llwybr Arfordir Cymru ond wedi ei sefydlu cyn y llwybr cenedlaethol, ac mae'r llwybr hwn yn gwyro oddi ar yr arfordir i ymweld â rhannau mewndirol.
Does dim rhaid cerdded y llwybr cyfan ac mae nifer o bobl yn dewis cerdded rhannau unigol ohono. Mae'r rhannau mwyaf poblogaidd yn cynnwys y llwybr rhwng Prestatyn a Diserth, ar hyd hen drac rheilffordd, Pen y Gogarth a Rhiwledyn ger Llandudno, Mynydd y Dref a'i hen fryngaer Caer Seion rhwng Conwy a Bwlch Sychnant, ucheldiroedd Penmaenmawr, a Rhaeadr Abergwyngregyn.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search