Mab Darogan

Y Mab Darogan yw'r gwaredwr a ddaw i arwain y Cymry i fuddugoliaeth derfynol ar y Saeson a'u gyrru allan o Ynys Prydain gan adfer y deyrnas i feddiant y Cymry, disgynyddion y Brythoniaid. Mae'r Mab Darogan yn ffigwr Meseianaidd sydd wedi chwarae rhan bwysig yn hanes Cymru dros y canrifoedd. Mae sawl person hanesyddol wedi cael ei uniaethu â'r Mab Darogan yn y gorffennol, gan gynnwys Arthur ac Owain Glyndŵr.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search