Mabwysiad LHDT

Cyfeiria mabwysiad LHDT at bobl lesbiad, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT) yn mabwysiadu plant. Ar hyn o bryd, mae cyplau o'r un rhyw yn medru mabwysiadu plant mewn nifer o wledydd ledled y byd.

Mae pobl LHDT yn mabwysiadu plant yn fater sydd wedi arwain at lawer o drafodaeth; cyflwynwyd deddfwriaeth yn yr Unol Daleithiau i atal yr arfer er fod ymdrechion o'r math hyn wedi bod yn aflwyddiannus yn gyffredinol. Ceir cytundeb fodd bynnag ar ddwy ochr y ddadl mai'r hyn sydd orau ar gyfer y plentyn ddylai benderfynu ar bolisi.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search