Manchester United F.C.

Manchester United
Enw llawnManchester United Football Club
(Clwb Pêl-droed Manceinion Unedig)
LlysenwauThe Red Devils[1]
Sefydlwyd(fel Newton Heath LYR F.C.)
Newid enw yn 1902 i Manchester United F.C.
MaesOld Trafford
(sy'n dal: 74,140[2])
PerchennogManchester United plc (NYSEMANU)
Cyd-GadeiryddionJoel a Avram Glazer
CynghrairPremier League
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Lliwiau Trydydd dewis
Tymor cyfredol
Cynnydd yn safle Manchester United yn Uwchgynghrair Lloegr o'i gychwyn yn 1892-93 hyd at 2013-14.

Tîm pêl-droed o Fanceinion, Lloegr yw Manchester United Football Club (Clwb Pêl-droed Manceinion Unedig) sef tîm pêl-droed mwyaf llwyddiannus Uwchgynghrair Lloegr ac un o dimau pêl-droed mwyaf poblogaidd yn y byd.

Mae'r tîm yn chwarae yn stadiwm Old Trafford yng nghanol y ddinas, stadiwm sy'n dal 75,635 .o gefnogwyr[3].

Mae nifer yn mynnu mai Manchester United hefyd yw clwb pêl-droed mwyaf poblogaidd y byd, gyda dros 75 miliwn o gefnogwyr ledled y byd a thros 200 clwb cefnogi swyddogol.[4] Dywed eraill fody niferoedd yn nes at 333 miliwn.[5] Roedd y clwb yn un o'r clybiau wnaeth sefydlu Uwchgynghrair Lloegr yn 1992, ac mae wedi chwarae yng nghynghrair uchaf Lloegr ers 1975. Mae cyfartaledd tyrfaoedd y clwb yn flynyddol uwch nag unrhyw glwb arall yn Lloegr, heblaw am chwe thymor yn unig ers 1964/65.[6]

Mae Manchester United wedi ennill Cwpan Lloegr 12 o weithiau, Uwchgynghrair Lloegr ddeg gwaith, Cwpan Cynghrair Lloegr ddwywaith, Cwpan UEFA unwaith a Chwpan Ewrop dair gwaith.

Y clwb yw'r ail clwb mwyaf llwyddiannus yn hanes pêl-droed Lloegr tu ol i Lerpwl; mae wedi ennill 20 o dlysau ers i Alex Ferguson gael ei benodi'n rheolwr ym Mis Tachwedd 1986. Maen nhw wedi ennill prif gynghrair Lloegr 20 o weithiau. Ym 1968 daethant y tîm cyntaf o Loegr i ennill cwpan Ewrop, drwy guro S.L. Benfica 4-1. Enillon nhw ail gwpan Ewrop ym 1999 fel rhan o'r trebl, cyn ennill eu trydydd cwpan yn 2008, bron 40 mlynedd i'r diwrnod ers ennill am y tro cyntaf.

Ers diwedd y 90au mae'r clwb wedi bod yn un o'r rhai mwyaf cyfoethog yn y byd, yn bennaf oherwydd ei berchennog Martin Edwards, gyda'r incwm mwyaf o unrhyw dîm pêl-droed, ac ar hyn o bryd y clwb mwyaf cyfoethog mewn pêl-droed a hefyd mewn unrhyw gamp gyda gwerth o £897 miliwn yn Mai 2008. Roedd y clwb yn un o aelodau gwreiddiol G-14 sef grwp o dimau gorau Ewrop ac erbyn hyn mae'n rhan o'r European Club Association.

Capten presennol y clwb yw Ashley Young a olynodd Antonio Valencia yn 2019.

  1. "Manchester United Football Club". premierleague.com. Premier League. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-15. Cyrchwyd 9 Mehefin 2012.
  2. "Manchester United - Stadium" (PDF). premierleague.com. Premier League. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-01-31. Cyrchwyd 12 Awst 2013.
  3. "Manchester United - Stadium" (PDF). premierleague.com. Premier League. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-08-20. Cyrchwyd 29 Awst 2014.
  4. Hamil (2008), p. 126.
  5. Cass, Bob (15 Rhagfyr 2007). "United moving down south as fanbase reaches 333 million". Daily Mail. London: Associated Newspapers. Cyrchwyd 20 Mehefin 2010.
  6. Rice, Simon (6 Tachwedd 2009). "Manchester United top of the 25 best supported clubs in Europe". The Independent. London: Independent Print. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-19. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2009.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search