Mania

Mae Mania, a Hypomania yn gyfnodau o ymddygiad cyffrous a gorfywiog sy’n cael effaith sylweddol ar eich bywyd o ddydd i ddydd.

Mae Hypomania yn fersiwn ysgafnach o fania sy’n para am gyfnod byr (ychydig ddyddiau). Mae Mania yn ffurf fwy difrifol sy’n para am gyfnod hirach (yr wythnos neu fwy).

Gall mania newid y ffordd y mae pobl yn teimlo yn emosiynol ac yn gorfforol. Gall hefyd effeithio ar eu meddyliau a’u hymddygiad. Er bod pobl sy’n profi mania’n teimlo’n uchel i ddechrau, gallant wylltio pan nad yw eraill yn rhannu eu hagwedd optimistaidd. Gall mania arwain at bobl i wneud penderfyniadau gwael, i gael diffyg sgiliau canolbwyntio ac ymddwyn mewn ffyrdd sydd naill ai’n gywilyddus, yn niweidiol neu ambell waith yn beryglus. Pan nad yw’r teimladau mor eithafol, caiff ei ystyried fel hypomania.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search