Meinwe

Meinwe
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o strwythurau anatomegol, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathstrwythur amlgellog, strwythur anatomegol, sylwedd biogenig, biological material Edit this on Wikidata
Rhan oorgan Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Casgliad neu grŵp o gelloedd ydy meinwe. Mae meinweoedd i gyd yn tarddu o'r un lle, ond er eu bod wedi eu creu o'r un math o gell yn wreiddiol, maent yn newid eu siap a'u pwrpas drwy arbenigo mewn rhyw fodd neu'i gilydd. Er mwyn gweithredu, mae sawl cell o whanol siapiau yn cyfuno i greu meinwe arbennig, unir y gwahanol feinweoedd i greu organ.

Histoleg ydy'r enw ar yr astudiaeth o'r feinwe. Defnyddir y meicrosgop a'r bloc paraffîn yn draddodiadol wrth eu hastudio. Mae datblygiadau technegol y ddau ddegawd diwethaf, yn enwedig gyda'r meicrosgop electron a'r defnydd o feinwe wedi'i rhewi, yn golygu y gellir gweld llawer mwy o fanylder o fewn y feinwe. Mae hyn yn golygu y gallwn adnabod afiechydon yn llawer cynt, a chreu ateb i lawer o broblemau yn ymwneud ag afiechydon.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search