Moses

Arweinydd crefyddol Beiblaidd o Iddew o'r 13eg ganrif CC y ceir ei hanes yn yr Hen Destament yn bennaf oedd Moses (Hebraeg: מֹשֶׁה; Hebraeg Cyffredin: Moshe; Hebraeg Tiberiaidd: Mōšeh; Arabeg: موسىٰ, Mūsa Ge'ez: ሙሴ Musse) [1]. Roedd yn rhoddwr cyfraith, proffwyd, ac arweinydd milwrol, ac ef a gyfrifir, yn ôl traddodiad, fel awdur y Tora (y Pumlyfr). Mae Moses yn broffwyd pwysig yn Iddewiaeth[2], Cristnogaeth, Islam[3], y grefydd Bahá'í, Mormoniaeth, Rastaffariaeth, a Raeliaeth[4], a sawl traddodiad arall.

<
F31S29S29
>
Moses
yn hieroglyffau

Yn yr Hen Destament ceir ei hanes yn bennaf yn Llyfr Ecsodus. Arweiniodd yr Hebreiaid o alltudiaeth yn Yr Aifft i Wlad yr Addewid. Dywedir iddo farw ar ôl esgyn i gopa Mynydd Nebo i gael golwg ar Wlad yr Addewid.

  1. "Moses." Encyclopædia Britannica. 2007. Encyclopædia Britannica Ar-lein
  2. Deuteronomy 34:10 KJV
  3. Qur'an 19:51-51
  4. "Raël, Intelligent Design, p. 114, p. 312, p. 324.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search